Modelau Rôl Benywaidd yn STEM

English

Modelau Rôl Benywaidd yn STEM

Sefydlwyd Diwrnod Rhyngwladol Ada Lovelace i dynnu sylw at lwyddiant menywod mewn pynciau STEM - Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

Dyma restr o rai arloeswyr STEM benywaidd enwog a'u cyflawniadau

Ada Lovelace

Mae Ada Lovelace yn enwog am mai hi oedd y person cyntaf i ysgrifennu a chyhoeddi rhaglen gyfrifiadurol yn 1843.

Beth? Arhoswch funud… Doedd dim cyfrifiaduron yn 1843!

Mae hynny'n wir. Ond, roedd Charles Babbage wedi cynllunio prototeip o beiriant cyfrifo a elwid yn Beiriant Dadansoddol yn y 1830au.

Wrth iddi astudio cynlluniau peiriant Babbage, dechreuodd Ada gynllunio sut y gellid ei weithredu - neu ei raglennu, fel y byddem yn dweud heddiw.

Gwaith Ada Lovelace wnaeth ysbrydoli Alan Turing 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Yn 1983 cafodd iaith newydd ar gyfer rhaglennu cyfrifiaduron ei galw yn Ada i nodi ei chyfraniad cynnar i gyfrifiadureg.

Portread o Ada Lovelace

Arlunydd: Alfred Edward Chalon

Rosalind Franklin

Mae Rosalind Franklin yn enwog am ddarganfod strwythur helics dwbl DNA.

Roedd ei gwaith ymchwil cynharaf yn canolbwyntio ar gemeg ffisegol carbon a glo yn ystod ymgyrch y rhyfel yn y 1940au.

Enillodd Rosalind PhD mewn cemeg o Brifysgol Caergrawnt yn 1945

Gan ddefnyddio technegau roedd hi'n gyfarwydd â nhw oherwydd ei gwaith gyda strwythurau carbon, aeth Rosalind ati i astudio strwythur ffisegol a chemeg DNA.

Gwnaeth ymchwil pellach i firysau ddarganfod bod RNA yn strwythur helics edefyn sengl.

Mae'n drawiadol ei bod hi wedi cyflawni hyn oll yn ystod gyrfa gymharol fer, gan y bu farw o ganser yn 38 oed.

Mae'r Cerbyd ExoMars - a fydd yn ceisio chwilio am arwyddion o fywyd ar y blaned Mawrth yn y dyfodol - wedi ei enwi yn Rosalind Franklin.

Rosalind Franklin yn craffu trwy ficrosgop

Ffynhonnell: Labordy Bioleg Foleciwlaidd y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC)

Katherine Johnson

Mae Katherine Johnson bellach yn enwog am ei gwaith fel prif fathemategydd llawer o deithiau NASA i'r gofod yn ystod y Ras i'r Gofod yn y 1950au a'r 60au.

Pam dweud 'bellach yn enwog am'?

Roedd Katherine Johnson yn fenyw mewn diwydiant a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion, ond roedd hi hefyd o darddiad Affricanaidd-Americanaidd. O ganlyniad, pan oedd ar ei mwyaf llwyddiannus, fe'i cadwyd o olwg y cyhoedd gan NASA oherwydd y tensiynau oedd yn gysylltiedig â pherson croenddu mewn swydd gyfrinachol uchel ar adeg pan oedd gwahanu yn arferol o hyd ar draws UDA.

Roedd hi'n un o'r bobl Affricanaidd-Americanaidd gyntaf i raddio o'i choleg, a hefyd yn un o'r cyntaf i ennill PhD mewn Mathemateg yn 1937 (26 blynedd cyn araith 'Mae gennyf freuddwyd' Martin Luther King).

Ar ôl darparu peth o'r fathemateg ar gyfer cyfres o ddarlithoedd a draddodwyd gan awyr-beirianwyr, cafodd hi, a gweddill y grŵp, eu recriwtio i NACA (a ailenwyd yn NASA flwyddyn yn ddiweddarach).

Katherine Johnson oedd yn gyfrifol am ddadansoddi taflwybr taith gyntaf dyn o America i'r gofod. O ganlyniad i'r gwaith hwn, hi oedd y fenyw gyntaf yn yr Is-Adran Ymchwil Awyrennau i gael ei henwi yn awdur papur.

Fe wnaeth barhau i ddarparu'r fathemateg gymhleth oedd ei hangen ar NASA i gwblhau nifer o deithiau llwyddiannus i'r gofod.

Gwrthododd un gofodwr, John Glenn, fynd ar daith yn 1962 tan i hafaliadau mathemategol y system gyfrifiadurol newydd gael eu cadarnhau a'u gwirio gan Katherine Johnson ei hun.

Derbyniodd gydnabyddiaeth gyhoeddus am ei chyflawniadau rhyfeddol o'r diwedd pan ddyfarnodd yr Arlywydd Barack Obama anrhydedd uchaf America i'w sifiliaid, iddi (Medal Ryddid yr Arlywydd).

Bu farw Katherine Johnson yn Chwefror 2020 yn 101 oed.

Katherine Johnson yn gweithio wrth ei desg yn NASA

Ffynhonnell: NASA

Marie Curie

Mae Marie Curie yn fwyaf enwog am ymchwilio i elfennau ymbelydredd. Ond, fe wnaeth hi hefyd dorri tir newydd ym maes meddygaeth.

Bu hi a'i gŵr, Pierre Curie, yn cydweithio yn yr Ysgol Ffiseg a Chemeg ym Mharis am nifer o flynyddoedd. Rhyngddynt, fe wnaethant ddarganfod dwy elfen newydd - Poloniwm a Radiwm.

Enillodd eu gwaith Wobr Nobel mewn Ffiseg iddynt (ar y cyd ag ymchwilydd annibynnol arall mewn ymbelydredd - Henri Becquerel) yn 1903.

Ar ôl marwolaeth ei gŵr, mi wnaeth barhau â'u gwaith ymchwil i ymbelydredd.

Enillodd Marie Curie Wobr Nobel arall - mewn cemeg y tro hwn - am ei gwaith ymchwil parhaus yn mesur lefelau ymbelydredd.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Marie Curie yn ymgyrchu ar ran y Groes Goch i godi arian ar gyfer unedau Pelydr-X symudol y gellid eu defnyddio i adnabod anafiadau ger maes y gad. Gelwid y peiriannau hyn yn 'Petits Curies'. Bu hithau, a'i merch, yn gweithio un o'r peiriannau hyn mewn gorsaf ddamweiniau ger blaen y gad i drin milwyr oedd wedi'u hanafu.

Mabwysiadwyd ei henw gan elusen fawr yn y DU sy'n cynnig gofal a chefnogaeth i'r sawl sy'n dioddef o salwch terfynol. Mae'r rhain yn aml yn defnyddio therapiau ymbelydredd a ddarganfuwyd gan Marie a'i gŵr.

Marie Curie yn defnyddio offer gwyddonol

Mayim Bialik

Mae Mayim Bialik yn actores enwog yn UDA, ac mae'n debyg ei bod hi'n fwyaf enwog am chwarae rhan Dr. Amy Farrah-Fowler yn y sioe deledu boblogaidd, The Big Bang Theory.

Ond rydym yn trafod gwyddonwyr nid actorion...

Profodd Mayim fod y ddau ddiddordeb yn gymharus â'i gilydd; mae hi'n actores, ond mae ganddi hefyd PhD mewn Niwrowyddoniaeth.

A hithau wedi dioddef oherwydd stereoteipio menywod mewn gwyddoniaeth yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol, mae hi bellach yn annog mwy o fenywod ifainc i gael gwared â stereoteipiau'r rhywiau.

"Bioleg y Môr, gweithio gydag anifeiliaid, gweithio yn yr amgylchedd - gwyddoniaeth yw'r pethau hyn i gyd. Chi'n hoffi peirianneg? Chi am godio? Ewch amdani. Mae llawer o yrfaoedd STEM sy'n cynnwys llawer o amrywiaeth a llawer o greadigrwydd. A dyna, yn fy marn i, y mae'n rhaid inni geisio ei gyfleu i ferched mor ifanc â phosibl."

Mayim Bialik, dyfynnwyd o gyfweliad yn National Geographic

Mayim Bialik

Ffynhonnell: Mark Neyman / Swyddfa Gwasg y Llywodraeth (Israel)