Mae'r gweithdy hwn yn ystyried beth yw lliw, sut rydym yn gweld lliw ac anawsterau pennu lliw gwrthrychau ar arwynebau planedau eraill.
Mae hyn i gyd yn gysylltiedig â rôl Prifysgol Aberystwyth yn nhaith gyfredol EXOMars i'r gofod, a fydd yn cael ei lansio - gobeithio - yn 2022.
Cliciwch ar y penawdau isod i ddatgelu mwy.
Mae pob un ohonom yn gwybod fod gan wrthrychau wahanol liwiau. Pam? Beth sy'n rhoi lliw penodol i rywbeth?
Wrth inni edrych ar wrthrychau yng ngolau'r haul, rydym yn edrych arnynt gan ddefnyddio golau gwyn o'r haul.
Yr hyn sy'n arbennig am olau gwyn yw iddo gael ei ffurfio o lawer o wahanol liwiau. Gellir gweld hyn wrth i ddefnynnau dŵr yn yr awyr rannu'r golau i ffurfio enfysau naturiol. Gallwn hefyd atgynhyrchu'r effaith gan ddefnyddio prism, fel y gwelir isod.
Wrth i'r golau gwyn fwrw gwrthrych, caiff rhai o'r lliwiau eu hamsugno a rhai eu hadlewyrchu. Y lliw sy'n cael ei adlewyrchu a welwn ni.
Er enghraifft: Mae pêl goch yn adlewyrchu'r lliw coch o'r golau gwyn ac yn amsugno'r lleill i gyd.
Ond beth am ddu?
Byddwch yn gwybod, mae'n debyg nad lliw go iawn yw du, oherwydd ei fod yn amsugno'r holl olau gwyn, sy'n golygu nad oes lliwiau yn cael eu hadlewyrchu.
Mae hyn yn golygu mai diffyg golau yw du
Ydych chi erioed wedi sylwi bod rhywbeth yn edrych yn lliw gwahanol y tu allan nag ydyw o dan oleuadau y tu mewn?
Mae'n bosib eich bod chi hefyd wedi sylwi ar newid mewn lliw yng ngolau gwahanol ystafelloedd.
Pam?
Mae goleuadau tu mewn yn wahanol i olau'r haul. Mae rhai yn fwy glas, ac eraill yn fwy melyn. O ganlyniad, mae'r ystod o liwiau y gall gwrthrych eu hamsugno a'u hadlewyrchu ychydig yn wahanol.
Gadewch inni edrych ar sut mae newidiadau lliw amlwg yn effeithio ar sut byddwn yn gweld pethau.
Pam mae'r postyn a'r bêl yn edrych yr un lliw mewn golau glas neu wyrdd?
Ceisiwch ganfod gwrthrychau o wahanol liw sy'n dryloyw. Edrychwch drwyddynt ac archwilio sut mae gwrthrychau o wahanol liw yn ymddangos.
Rydym newydd edrych ar sut mae lliw yn cael ei gynhyrchu trwy adlewyrchu ac amsugno gwahanol liwiau golau.
Nawr, beth am inni edrych ar sut rydym yn 'gweld' lliwiau.
A fyddech chi'n cael eich synnu pe bawn ni'n dweud wrthych chi mai tri lliw yn unig all y llygad dynol eu canfod? Mae'n wir.
Mae cymysgu lliwiau golau yn wahanol iawn i gymysgu lliwiau paent.
Mewn celf, y lliwiau sylfaenol (y mae pob lliw arall yn cael eu cymysgu ohonyn nhw) yw; coch, glas a melyn.
Mae ein llygaid yn gweld mewn tri lliw golau sylfaenol; coch, gwyrdd a glas, ac rydym yn prosesu eu cymysgu i greu'r holl liwiau y gallwn eu gweld.
Mae'r diagram isod yn enghraifft sylfaenol o sut mae'r tri lliw a welwn yn gorgyffwrdd i ffurfio lliwiau eraill
Arhoswch funud, a ydym ni'n ceisio dweud wrthych ein bod yn gweld melyn trwy gymysgedd o goch a gwyrdd?
Beth am inni gynnal arbrawf i brofi hyn.
Noder: os ydych yn ddall i liwiau neu'n defnyddio sgrîn sy'n hidlo lliwiau, ni fydd yr arddangosiad hwn yn gweithio yn ôl ei fwriad.
Gwelir isod lun sy'n dangos lliwiau sylfaenol ac eilaidd golau.
Rydym wedi rhoi'r rhain ar gefndir gwyn. Rydym yn gwybod bod gwyn yn adlewyrchu unrhyw liw, a phob lliw, ac fe fydd, felly yn dangos i chi pa liw golau rydym yn 'sgleinio' ar y llun
Er mwyn troi'r gweithgaredd yn arbrawf, lluniwch dabl canlyniadau a fydd yn eich galluogi i ddangos pa liw y mae pob sgwâr yn ymddangos dan bob lliw golau.
Byddai nawr yn adeg dda i geisio rhagfarnu beth fydd yn digwydd, yn eich barn chi.
Ar gyfer yr arbrawf, defnyddiwch y botymau isod i newid y golau i wylio.
Hyderwn fod yr ymarfer hwn wedi eich helpu i ddeall sut rydym yn gweld golau.
Sut gallech chi ddefnyddio'r canlyniadau hyn i brofi ein bod yn gweld melyn trwy gymysgedd o olau coch a gwyrdd?
Er mwyn cynhyrchu'r gwahanol effeithiau golau ar gyfer y lluniau uchod, fe wnaethom ddefnyddio meddalwedd am ddim: LibreOffice Draw
Fe wnaethom gymryd y lluniau gwreiddiol a newid y golau gan ddefnyddio'r hidlyddion rgb.
Er enghraifft, er mwyn iddo edrych fel pe bai o dan olau coch, fe wnaethom leihau'r gwyrdd a'r glas i -100% a chynyddu'r coch i 100%, cyn gosod y disgleirdeb i -75%.
Gan ddefnyddio'r meddalwedd hwn, neu feddalwedd arall sy'n newid lluniau yn yr un modd, rhowch gynnig ar chwarae gyda rhai o'ch ffotograffau neu'ch lluniau chi.
Pa mor ddieithr allwch chi wneud i dirwedd edrych trwy newid y golau yn unig?
Mae pob croeso i chi rannu eich canlyniadau ag eraill trwy eu hanfon at nar25@aber.ac.uk.
Byddai ein byd yn edrych yn wahanol iawn pe bai'r lliw rydym yn ei gael o'r haul yn lliw arall ac eithrio gwyn.
Y broblem yw nad yw pob planed yn derbyn golau gwyn ar eu harwyneb. Mae atmosfferau'r planedau yng nghysawd yr haul yn wahanol iawn i'n hatmosffer ni a gall y rhain newid lliw'r golau.
O ganlyniad, pan fyddwn yn anfon cerbydau i blanedau eraill i dynnu lluniau â chamera, a saethu fideos, mae'n bosib nad ydym yn gweld y lliwiau cywir.
Nid oes gennym wybodaeth ddigon manwl am liw y golau ar y planedau hyn er mwyn eu dileu'n llwyr ar luniau.
Caiff lluniau NASA o arwyneb Mawrth (o'u crwydriaid) eu newid gan ddefnyddio rhagfynegiadau arbenigol ar gyfer eu lliwio.
Mae ffisegwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn helpu i greu camera ar gyfer crwydryn y dyfodol (Crwydryn EXOMars Rosalind Franklin) i dynnu lluniau gwir liw arwyneb Mawrth.
Bydd hyn yn ein helpu i brofi/gwrthbrofi'r rhagfynegiadau o ran lliw a ddefnyddiwyd wrth archwilio'r arwyneb yn y gorffennol.
Gwelir isod lun o'r Crwydryn Barnes (model maint llawn o'r Rosalind Franklin) sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae ein hymchwilwyr wedi creu siart liwiau bach (a elwir yn darged graddnodi) i'w osod ar y crwydryn. Rydym yn gwybod yn iawn pa liwiau yw'r rhain. Felly, pan fydd y crwydryn yn cyrraedd Mawrth, gall ddefnyddio'r lliwiau hysbys hyn i hidlo'r gwahaniaethau o ran golwg a achosir gan y golau dieithr.
Dyma'r targed graddnodi lliwiau:
Llun gan: M. de la Nougerede, UCL/MSSL 2019.