Heriau Mathemategol 4

Cymraeg

Heriau Mathemategol 4


1: Ras y Planedau Cyflymder

Pellter y Ddaear o'r haul yw 93 miliwn o filltiroedd
Yr enw a roddir ar y pellter hwnnw yw Uned Seryddol (AU - Astronomical Unit).
Dyma dabl o'r planedau sydd yng nghysawd yr haul. Mae'n dangos eu pellter o'r haul, a pha mor hir yw eu blynyddoedd nhw yn nhermau amser y Ddaear.

Planed Y pellter o'r Haul - Unedau Seryddol (AU) Hyd y flwyddyn, yn nhermau amser y Ddaear
Mercher 0.39 88 diwrnod
Gwener 0.723 225 diwrnod
Y Ddaear 1 365 diwrnod
Mawrth 1.524 687 diwrnod
Iau 5.203 11.86 o flynyddoedd
Sadwrn 9.539 29.5 o flynyddoedd
Wranws 19.18 84 o flynyddoedd
Neifion 30.06 165 o flynyddoedd

Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, gan gymryd bod pob orbit yn gylchol, pa blaned sy'n symud gyflymaf, a ph'un yw'r un fwyaf araf?

buanedd = pellter ÷ amser.
orbit/pellter = cylchedd = 2πr (lle mae r = pellter o'r haul)

Gan ddefnyddio π = 3.14 a blwyddyn = 365 diwrnod
pellter (mewn Unedau Seryddol (Astronomical Units) fesul diwrnod) = cylchedd ÷ amser mewn diwrnodau
Mercher yw'r blaned gyflymaf yn teithio 0.28 Uned Seryddol (AU) y diwrnod.

Gweithrediadau Sylfaenol

I wneud hyn yn fwy heriol, peidiwch â defnyddio cyfrifiannell.



Crossword grid

Fersiwn Excel o grid y chwilair i raglenni darllen sgrin.


AR DRAWS I LAWR
1. 1790 + 2686 1. 40433 x 1
4. 8880 ÷ 10 2. 94 - 29
6. 318 x 161 3. 14 - 3
9. 480 ÷ 10 4. 359 x 247
11. 1122 ÷ 17 5. 94 x 86
12. 415 ÷ 5 7. 16 - 4
14. 70 x 43 8. 3564 + 6061
16. 727 x 1 10. 32 + 48
17. 280 ÷ 7 13. 2464 ÷ 8
18. 936 - 283 15. 390 + 704
19. 36 + 63 16. 1087 - 319
21. 6 +12 20. 83 x 11
23. 5741 x 1 21. 281 - 82
24. 3598 -999 22. 356 + 535
25. 5360 - 1576 23. 57780 ÷ 10
27. 7304 ÷ 8 24. 344 - 104
28. 1584 ÷ 22 26. 820 ÷ 10
30. 19 x 11 29. 71 + 135
32. 11264 - 3218 31. 1683 ÷ 17
34. 3378 + 5744 33. 23 x 3
36. 3533 + 6361 35. 29 x 1

Fersiwn Pdf Ar Gael

6 ar draws yw 51198 a 25 ar draws yw 3784

Fracsiynau

Beth yw gwerth hanner (1/2) o ddwy ran o dair (2/3) o dri chwarter (3/4) o bedair rhan o bump (4/5) o bum rhan o chwech (5/6) o chwe rhan o saith (6/7) o saith rhan o wyth (7/8) o wyth rhan o naw (8/9) o naw rhan o ddeg (9/10) o un fil?

Y gamp yw gweithio tuag at yn ôl drwy'r broblem hon, felly dechreuwch gyda 9/10 o 1000.

naw rhan o ddeg o 1000 = 900
wyth rhan o naw o 900 = 800
saith rhan o wyth o 800 = 700
chwe rhan o saith os 700 = 600
pum rhan o chwech o 600 = 500
pedair rhan o bump of 500 = 400
tri chwarter 400 = 300
dwy ran o dair o 300 = 200
hanner 200 = 100
Yr ateb yw 100

4: Sgwâr Hud a LledrithYchwanegiad

Bydd angen i chi roi cyfanrifau rhwng 0 a 9 i lenwi'r gwagleoedd.
Mae'r rhifau ym mhob rhes yn adio i'r cyfansymiau ar y dde.
Mae'r rhifau ym mhob colofn yn adio i'r cyfansymiau ar hyd y gwaelod.
Mae'r llinellau lletraws (croesliniau) hefyd yn adio i'r cyfansymiau sydd yn y corneli ar y dde.


A magic square number grid

Fersiwn Excel o'r grid 'Sgwâr Hud'

Dechreuwch gyda'r rhesi a'r colofnau â phedwar rhif yn barod.
Mae hyn yn golygu bod y rhes isaf yn darllen 2, 7, 8, 0, 2 sydd, o'u hadio at ei gilydd yn gwneud 19.
Felly, er mwyn gweithio allan y rhif sydd ar goll yn y golofn gyntaf (ar y chwith), mae'n rhaid i chi gyfrifo 18 - (5 + 9 + 2 + 2)

5: FfactorioFfactorio (Lefel UG)

Beth yw gwerthoed x ar gyfer pob un o'r rhai isod?

  1. 8x2 - x = 0

  2. 9x2 - 49 = 0

  3. x2 - 9x + 20 = 0

  4. x2 + 4x - 12 = 0

  5. 8x2 + 15 = 22x

  6. 20x2 = 9 + 31x

Enghreifftiau i weithio drwyddyn nhw:

Canfyddwch werthoedd x pan 3x2 - 2x = 0

Cam 1: Ffactoriwch

x(3x - 2) = 0

Cam 2: Datryswch

x = 0 neu x = 2/3

Noder: Mae'r dull hwn ond yn gweithio ar gyfer y fformat ax2 + bx = 0. Fel arall, gweler isod.


Canfyddwch werthoedd x pan 6x2 - 5x - 4 = 0

Cam 1: Ffactoriwch

(2x + 1)(3x - 4)

Cam 2: Datryswch

Un ai 2x + 1 = 0 neu 3x - 4 = 0

Felly, x = -1/2 neu x = 4/3


Noder: Os nad oedd hyn yn eich helpu, ewch i wefan Maths is Fun am diwtorial mwy manwl.

  1. 0 neu 1/8

  2. 7/3 neu -7/3

  3. 4 neu 5

  4. 2 neu -6

  5. 5/4 neu 3/2

  6. 9/5 neu -1/4