Pwyntiau Trafod

English

Pwyntiau Trafod: Rhannu Gwybodaeth Ar-lein, Pecyn 1

Mae'r gweithdy hwn yn cynnig dewis o 5 gwahanol fath o wybodaeth a rennir ar-lein i drafod materion posibl.

Gwnaethom lunio'r deunyddiau hyn i annog trafodaeth a darparu cyfarwyddyd ar beth i'w ystyried cyn postio neges neu rannu gwybodaeth yn gyhoeddus.


Dewiswch un o'r lluniau isod i ddechrau arni.



Abwyd Clicio
Hashnodau
Cynorthwyo Troseddwyr
Diogelu Data
Ffug Newyddion

Pwynt Trafod: Abwyd Clicio

Neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn honni nad ci yw'r cymeriad cartŵn, Goofy, ond yn hytrach, buwch.

A fyddech chi'n rhannu'r ddolen hon ar-lein? Pam?

Gyda phwy ydych chi'n cytuno?


Mae'n ddoniol iawn - does neb yn credu bod hyn yn wir, oes 'na?


Rwy'n casáu pan mae pobl yn rhannu'r rhain - mae'n ychwanegu sbam at fy ffrydiau.


Dwi ddim yn hoffi'r geiriad sy'n gwneud i bobl deimlo'n wirion os nad oeddent yn gwybod hyn.


Mae hon yn un o'r straeon gwirion hynny sy'n llawn hysbysebion ond ydyw?


Nid yw'n gwneud unrhyw niwed i unrhyw un.


Byddwn i'n ei rhannu oherwydd mae'n ddoniol, ond byddwn hefyd yn rhoi sylw i ddweud mai stori ffug ydyw.


Mwy am y ddolen hon

Ysgrifennwyd erthygl ddigrif yn 2012, yn rhoi hanes ffug gyda thystiolaeth ddychmygol, yn honni'r gwirionedd y tu ôl i hunaniaeth Goofy fel buwch. Ers hynny, mae'r gamwybodaeth wedi cael ei defnyddio fel abwyd clicio gan nifer o wefannau gwahanol.

Beth yw 'abwyd clicio'?

Abwyd clicio yw cynnwys sy'n ceisio denu sylw ac annog ymwelwyr i glicio ar ddolen i dudalen we benodol.

Felly, diben abwyd clicio yw eich temtio i glicio ar ddolen. Pam?

Mae hysbysebu'n dod ag incwm i berchnogion gwefannau. Bob tro y bydd rhywun yn edrych ar hysbyseb, caiff y gwesteiwr ei dalu. Mae rhai pobl a chwmnïau wedi penderfynu manteisio ar hyn drwy lenwi eu safleoedd â llawer o hysbysebion i amlhau elw. Os nad yw un tudalen yn ddigon, maent yn aml yn lledaenu'r stori dros nifer o dudalennau. I sicrhau bod pobl yn darllen drwy'r holl erthygl (ac felly'n 'gweld' yr holl hysbysebion) mae'n rhaid iddynt ddod o hyd i benawdau a lluniau dolen a fydd yn dal sylw pobl.

Yn anffodus, yn yr un modd â phopeth ar-lein, mae yna hefyd risgiau eraill sy'n gysylltiedig â chlicio ar, neu rannu, dolen anhysbys.

Sut y gall dolen fod yn beryglus?

Gall dolenni ysgogi lawrlwythiadau (gan gynnwys maleiswedd a firysau), mynd â chi i safleoedd amhriodol annisgwyl, neu ganiatáu casglu data a allai gael ei werthu ymlaen.

Beth yw eich awgrymiadau ar gyfer rhannu'r rhain?

Os bydd un o'r rhain yn gwneud i chi chwerthin, neu'n dal eich sylw drwy godi cwestiwn yr hoffech wybod yr ateb iddo, dyma ein cyngor:

  1. Peidiwch â chlicio ar y ddolen sydd ynghlwm â'r neges.
  2. Yn hytrach, ewch i wefan fwy dibynadwy - os yw'n erthygl newyddion, edrychwch ar newyddion swyddogol y BBC a/neu safleoedd newyddion swyddogol eraill i gadarnhau, os yw'n rhywbeth fel hyn, y lle gorau i chwilio yw snopes.com (gwefan gwirio ffeithiau a argymhellir gan y BBC a gwasanaethau gwe cyfrifol eraill).
  3. Os ydych chi'n dal eisiau ei rannu, gwnewch hynny o'r ffynhonnell ddibynadwy. Os yw'n ffug, ceisiwch wneud yn siŵr eich bod wedi'i labelu felly.

Pwynt Trafod: Hashnodau

Neges drydar yn dweud #ihatemyjob a GIF o ddyn yn taro ei ben ar ei fysellfwrdd mewn swyddfa.

A fyddech chi'n ail-drydar hwn? Pam?

Gyda phwy ydych chi'n cytuno?


Mae pawb yn cael diwrnod gwael, ac mae hyn yn crynhoi hynny mewn ffordd ddoniol.


O na, gobeithio na fydd eu pennaeth yn gweld hyn!


Mae'n hashnod grêt ar gyfer y GIF yna.


Mae hyn mor amhroffesiynol, yn enwedig os ydyn nhw'n enwi eu cyflogwr yn rhywle arall ar eu ffrwd.


Mi wna i chwerthin os gwnânt golli eu swydd o ganlyniad i hyn.


Byddwn i'n ei rannu gyda rhybudd i beidio â thrydar o dan hashnod o'r fath - mae'n siŵr o arwain at drwbl.


Mwy am y neges drydar hon

Mae hon yn neges gyhoeddus ar Twitter, yn wir hon oedd yn ymddangos gyntaf wrth i ni chwilio am yr hashnod hwn.

Beth mae'r hashnod yn ei olygu/gwneud?

Mae hashnod yn dangos neges drydar yn gyhoeddus o fewn grŵp o bynciau tebyg a hefyd yn ei gwneud hi'n haws chwilio amdano, gan unrhyw un.

Po fwyaf y caiff hashnod ei ddefnyddio, y mwyaf y bydd yn trendio. Trwy hoffi neu ail-drydar, rydych chi'n helpu i wthio'r hashnodau sydd ynghlwm yn uwch i fyny'r rhestr.

Mae rhai pobl yn defnyddio hashnodau sy'n trendio i gynyddu eu cynulleidfa eu hunain mewn ymgais i ennill mwy o ddilynwyr.

Beth sydd o'i le â hynny?

Yn gyffredinol, does dim o'i le â'r cysyniad. Fodd bynnag, gallai hashnodau fel hyn fod yn niweidiol i lawer o bobl.

Trwy ddatgan yn gyhoeddus faint yr ydych chi'n casáu eich swydd, rydych chi hefyd yn awgrymu bod y cwmni yr ydych chi'n gweithio iddo yn wael/diflas/ddim yn poeni am ei staff. Gallai hyn, yn ei dro, effeithio ar benderfyniad cwsmeriaid presennol neu ddarpar gwsmeriaid.

Fel y gallwch ddychmygu, ni fyddai cyflogwr/pennaeth/cwmni'r unigolyn hwn yn hapus pe bai yna unrhyw beth i'w cysylltu â'r neges hon. Mae pobl wedi colli eu swyddi o ganlyniad i hashnod neu neges gyhoeddus annoeth.

Beth am ail-drydar neu hoffi hwn?

Mae'r ffaith eich bod wedi chwilio am yr hashnod hwn neu wedi meddwl ei fod yn addas i'w rannu yn codi cwestiynau ynghylch y modd yr ydych chi'n teimlo am eich cyflogaeth eich hun.

Felly, beth yw eich cyngor am hashnodau?

Y prif beth i'w ystyried yw a oes yna unrhyw un nad ydych eisiau iddynt ei weld. Os taw'r ateb yw oes, yna peidiwch â'i ddefnyddio.

Fel rheol mae'n arfer da i osgoi rhoi negeseuon ar unrhyw lwyfan gymdeithasol am eich teimladau ynghylch gwaith, crefydd, hil, rhywioldeb, neu wleidyddiaeth.

Esiamplau o bobl yn colli eu swyddi o ganlyniad i negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol:

Pennawd Newyddion: Director James Gunn Fired from 'Guardians3' Over Old Tweets
Pennawd Newyddion: Ill-Considered Posts Lead to Lost Jobs Amid Protests, Crisis
Pennawd Newyddion: Gina Carano fired from The Mandalorian after 'abhorrent' social media posts
Pennawd Newyddion: HSBC Bankers Fired After Filming Mock ISIS Execution
Pennawd Newyddion: Justine Sacco, PR Executive fired over racist tweet, 'ashamed'

Pwynt Trafod: Cynorthwyo Troseddwyr

Neges ar Instagram yn dangos yr olygfa y tu mewn a'r tu allan i stydi rhywun gyda thestun am golli'r olygfa'r wythnos hon #businessTrip ac #iMacPro.

A fyddech chi'n rhannu'r neges hon ar-lein? Pam?

Gyda phwy ydych chi'n cytuno?


Byddwn i'n ei rhannu i ddangos beth rwy'n gobeithio gallu ei fforddio rhyw ddydd.


Pam y byddwn i'n rhannu hwn? Mae'r unigolyn hwn yn brolio.


Byddwn i'n anfon neges i roi gwybod iddynt ba mor genfigennus ydw i.


#Taithgwaith, am wythnos. Llawer gormod o wybodaeth - felly rwyt ti'n gadael yr #iMacPro 'na heb ei oruchwylio?


Mae'n siŵr nad llun o'u lle nhw ydy o, maen nhw ond yn dangos eu hunain.


Ni fyddwn yn ei rannu, ond byddwn i'n ei hoffi oherwydd rwy'n cytuno bod yr olygfa'n anhygoel.


Mwy am y neges hon

Mae'r neges yr ydym wedi'i darparu ar gyfer yr adran hon wedi cael ei ffugio drwy ddefnyddio templed Instagram ffug a llun oedd ar gael yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, roeddem eisiau amlygu'r risgiau sy'n gysylltiedig â neges o'r fath.

Mae'r neges hon yn dangos pa mor hawdd yw hi i ddangos eich pethau mwyaf gwerthfawr, a hefyd gadael eich hun yn agored i gael eich lladrata yn ystod eich amser i ffwrdd.

Cofiwch, mae defnyddio hashnodau'n darlledu eich negeseuon ymhellach, bydd unrhyw un sy'n gwneud sylw, yn hoffi neu'n rhannu'r neges yn lledaenu'r wybodaeth ymhellach. Efallai mai chi fydd yn rhoi'r wybodaeth hon i'r troseddwr sy'n ei defnyddio.

Felly, peidiwch â phostio neges pan fyddwch i ffwrdd?

Dyna'r neges gyffredinol, peidiwch â chyhoeddi i bawb pryd fydd eich cartref yn wag, neu am ba hyd oherwydd gallai'r wybodaeth hon gynorthwyo lladron a throseddwyr eraill.

Peth arall i'w wirio - a yw'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yr ydych yn eu defnyddio yn rhoi dewisiadau mewngofnodi neu GPS sy'n dweud wrth bobl eraill ble'r ydych chi. Os ydych chi'n mewngofnodi ar-lein mewn gwesty mewn gwlad dramor, rydych chi'n cyhoeddi i'r byd nad oes neb gartref.

Ond beth am fy holl luniau gwyliau?

Y cyngor gorau yw i chi eu harddangos ar ôl i chi ddychwelyd. Nid yn unig y bydd hyn yn eich diogelu rhag lladrad, ond gall hefyd arbed arian i chi ar eich bil rhyngrwyd.


Pennawd Newyddion: Brits being burgled after bragging about expensive purchases and holidays on social media, study finds.
Pennawd Newyddion: Burglars use Social Media to Find Next Victims
Pennawd Newyddion: How thieves can track down your address ONE MINUTE after you update Facebook and Twitter with your holiday plans.

Pwynt Trafod: Diogelu Data

Wal yn llawn papurau post-it gyda llawer o wahanol negeseuon ysbrydoledig arnynt.

A fyddech chi'n rhannu'r llun hwn ar-lein? Pam?

Gyda phwy ydych chi'n cytuno?


Mae hon yn enghraifft dda o rannu meddyliau cadarnhaol yn y gweithle!


Tybed beth sydd arnyn nhw i gyd.


Dwi wrth fy modd â'r syniad a byddwn i'n rhannu hwn er mwyn ysbrydoli eraill.


Mae'n ymddangos yn ddiniwed, ond byddwn eisiau gwirio'r llun ymhellach cyn rhannu


Mae'n arddangosfa mor llachar a lliwgar.


A yw'r bobl sydd wedi cyfrannu'n gwybod bod eu negeseuon wedi cael eu rhannu'n gyhoeddus?


Mwy am y llun hwn

Mae'r ffoto hwn ar gael yn gyhoeddus ar-lein. I ddechrau mae'n ymddangos fel enghraifft dda o declyn i ysbrydoli ac ysgogi yn y cartref neu'r gweithle.

Rwy'n dyfalu bod yna 'ond'...

Wrth edrych yn agosach ar y llun, roedd rhaid i ni ychwanegu rhywfaint o sensoriaeth drwy bylu. Edrychwch ar y fersiwn isod i weld faint o bylu oedd ei angen (roedd ein pylu ni yn fwy cynnil yn y fersiwn uchod - doedden ni ddim eisiau datgelu'r broblem yn rhy hawdd).

Yr un llun ag uchod, y gwahaniaeth yw bod gan hwn 7 ardal wedi'i sensro.

Beth oedd angen ei sensro?

Roedd pump o'r achosion i guddio rhifau ffôn, un i bylu rheg, a'r olaf i guddio dyfyniad pryderus ynghylch marwolaeth.

A oedd y bobl dan sylw'n disgwyl i'w mewnbwn gael ei rannu ar-lein i'r byd i gyd ei weld, neu dim ond ei ddefnyddio yn y gweithle? Mae'r cynnwys yn awgrymu'r olaf, sy'n golygu bod postio neu rannu hwn yn torri preifatrwydd ac, mewn rhai gwledydd, cyfreithiau diogelu data (yn arbennig wrth gynnwys enwau drws nesaf i rifau ffôn).

Ein cyngor yw gwirio eto beth yr ydych yn tynnu ffotograff ohono i wneud yn siŵr nad yw'n cynnwys unrhyw fanylion personol, yn arbennig os nad eich manylion chi ydyn nhw.

Cofiwch ofyn am ganiatâd gan yr holl gyfranogwyr bob tro cyn rhannu prosiectau tîm fel hyn ar-lein.

Pwynt Trafod: Ffug Newyddion

Neges Facebook yn dangos pennawd newyddion sy'n dweud 'Cargo ship crashes into Suez Canal. First female Arab Lloyd captain involved in incident', wedi'i gyflwyno gyda'r sylw 'You know what they say about female drivers...'

A fyddech chi'n rhannu'r neges hon ar-lein? Pam?

Gyda phwy ydych chi'n cytuno?


Dim ond tynnu coes diniwed yw hyn.


Nid yw hyn yn deg - mae menywod yn well na dynion am yrru'n ddiogel. FFAITH!


Mae hwn mor ddoniol. Mae hi wedi cael ei chyflogi am wythnosau'n unig ac eisoes wedi achosi argyfwng morgludiant rhyngwladol.


Fyddwn i ddim eisiau bod yn ei hesgidiau hi. Costiodd y ddamwain hon filiynau yn rhyngwladol!


Dylai pawb wybod pwy sy'n gyfrifol am Argyfwng Camlas Suez - y capten sy'n rheoli'r llong, ac fe fethodd y capten.


Agwedd rywiaethol nodweddiadol - mi fetia' i nad yw'n wir hyd yn oed, rhyw ddyn sy'n meddwl mai'r gegin yw lle'r fenyw sydd wedi ffugio'r peth.


Mwy am y neges hon

Ym mis Mawrth 2021, cafodd llong gargo fawr wrthdrawiad a blocio Camlas Suez yn yr Aifft am nifer o ddiwrnodau. Gwnaeth hyn flocio prif lwybr morgludiant rhyngwladol, gan achosi gwerth biliynau o ddoleri o atalfa, ac achosi oedi mewn danfon nwyddau ar draws y byd.

Awyrlun o long gargo Ever Given yn sownd ar draws lled cyfan Camlas Suez.

O ganlyniad i dyndra uchel ynghylch y digwyddiad, nid yw enw capten y llong wedi cael ei ryddhau eto (wrth i hyn gael ei ysgrifennu) i'w ddiogelu.

Os yw hynny'n wir, pam mae'r erthygl hon yn ei henwi?

Dydy hi ddim. Dyma bennawd wedi'i ffugio (gyda photoshop) a gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd Marwa Elselehdar (y fenyw yn y llun) gannoedd o filltiroedd o Gamlas Suez pan ddigwyddodd hyn.

Y pennawd ffug yn erbyn y gwreiddiol, sef: Marwa Elselehdar: Egypt's first female sea captain is riding waves of success.

Mae'r neges hon yn enghraifft o seiberfwlio yn erbyn menywod llwyddiannus, ond hefyd yn dangos sut y gall ffug newyddion gael ei ddefnyddio i atgyfnerthu ystrydebau rhywedd.

Yn yr Aifft, gwlad lle mae menywod yn dal i orfod ymgyrchu am hawliau cyfartal, gall cyhuddiadau o'r fath gael effaith negyddol.

Trwy rannu, hoffi neu wneud sylwadau ar neges o'r fath, rydych chi'n cynorthwyo i ledaenu celwyddau am unigolyn yn ogystal â chynorthwyo agenda tywyll y crewyr i atal y symudiad hawliau cyfartal yn yr Aifft.

Os oes neges 'newyddion' yn enwi unigolyn, peidiwch â'i rhannu ymhellach (mae hynny'n cynnwys drwy roi sylw neu hoffi) nes eich bod wedi gwirio'r peth ar safle newyddion dibynadwy (megis y BBC). Os yw'r erthygl yn wir, rhannwch hi o'r ffynhonnell ddibynadwy. Os na allwch ddod o hyd iddi edrychwch ar snopes.com (maent yn wefan gwirio ffeithiau ddibynadwy) Os yw'n ffug, rhowch wybod am y neges wreiddiol - mae'r rhan fwyaf o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn barod iawn i dynnu enghreifftiau o seiberfwlio a ffug newyddion o'u llwyfannau.