Gêm Genomau

English

Gêm Genomau

Nod yr ymarfer hwn yw helpu myfyrwyr i ddeall hanfodion geneteg a defnyddio'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu wrth chwarae gêm sydd wedi'i chreu gan staff yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.
Fe'i bwriedir ar gyfer CA3 a TGAU, gan ei fod yn addas ar gyfer cwricwlwm gwyddoniaeth/bioleg CBAC y ddau gyfnod.


Celloedd Anifeiliaid a Phlanhigion

Fe welwch lun wedi'i labelu isod yn cymharu cell anifail â chell planhigyn.

Diagram wedi'i labelu yn cymharu cell anifail a phlanhigyn

https://www.bbc.co.uk/bitesize/topics/znyycdm/articles/zr69dxs

Lluniwch dabl sy'n cynnwys enw pob rhan o'r gell a labelir uchod, gan nodi a ydyn nhw i'w gweld mewn celloedd anifeiliaid, celloedd planhigion neu'r ddau, a'r hyn maen nhw yn ei wneud (eu swyddogaeth). Os ydych yn cael anhawster cynllunio'r tabl, dyma dempled tabl wedi'i baratoi. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid ichi ymchwilio i'w swyddogaethau os nad ydych eisoes wedi trafod y pwnc hwn.

Awgrym: Os nad ydych yn gwybod ble i ddod o hyd i'r wybodaeth ar gyfer cwblhau eich tabl, trowch at BBC Bitesize: What are cells?

Y tu mewn i'r Cnewyllyn

Delwedd o'r berthynas rhwng niwclews, cromosom a genyn

WJEC GCSE Science; Pollard and Schmit; 2011; p40

Crynodeb o'r Ymarfer

Wel, am swmp o wybodaeth i'w ddeall ar unwaith. Felly, beth am inni wneud ymarfer llenwi'r bylchau er mwyn helpu i weld a ydym yn deall.

Copïwch a chwblhewch y paragraff isod gan ddefnyddio'r wybodaeth uchod.

Set gyflawn o ________________ genetig ________________ yw genom.
Mae wedi ei ffurfio o 20,000 i 25,000 o wahanol ________________.
Ysgrifennir y cod mewn ________________ sy'n cael eu galw yn fasau.
Mae'r cyfan yn cael ei storio yn ein ________________ y tu mewn i'r cromosomau.
Mae'r rhain, yn eu tro, y tu mewn i ________________ pob cell.

Awgrym - Y geiriau sydd ar goll yw: genynnau, cnewyllyn, organeb, DNA, cod, cemegion.

Gêm Genomau

Mae staff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu gweithgaredd mewn porwr a elwir yn Gêm Genomau. Mae'n ystyried sut mae gwahanol enomau (neu setiau genynnau) yn gallu newid nodweddion creadur. Yna, mae'n eich herio i ddefnyddio'r wybodaeth yma i bennu pa nodwedd y mae pob genyn yn ei rheoli a sut.

Gweler isod am wybodaeth ar gyfer llywio drwy'r sgrîn gyntaf.

Ciplun o sgrin y gêm gyda labeli

I wneud pethau ychydig yn haws, dau opsiwn yn unig sydd ar gyfer pob genyn, 1 neu 0, a gelwir hyn yn system ddeuaidd. Hefyd, byddwn yn edrych ar setiau o 4 genyn yn unig ar y tro, a bydd pob un ohonyn nhw yn cael effaith amlwg ar olwg y creadur sy'n cael ei greu.

Os cliciwch ar y botwm 'Dangos Rheolau'r Genyn', bydd tabl yn llwytho a fydd yn eich galluogi i newid yr hyn mae'r genyn yn ei wneud a sut. Dyma'r her gyntaf: rhowch gynnig ar ail-greu'r creadur isod, gan baru ei olwg â chod y genomau.

Delwedd o greadur wedi'i gynhyrchu gyda genom penodol o 0101 gyda phen coch, llygaid melyn, corff melyn a chwe choes

Bydd y botwm 'Creu Poblogaeth' yn creu poblogaeth sampl fach o greaduriaid o'r rheolau genomau a roddwyd iddo. Mae'r botwm 'Cuddio'r Boblogaeth/Hide Population' yn dileu'r samplau o'ch sgrin.

Unwaith y byddwch yn teimlo'n hyderus ynglŷn â sut mae'r genynnau yn effeithio ar y creadur, cliciwch ar y botwm 'Dechrau'r Gêm/Start Game'. Bydd yn llwytho poblogaeth sampl o greaduriaid a bydd yn rhaid ichi weithio allan a nodi rheolau'r genynnau a'u creodd. Tybed a allwch chi guro'r cloc?

Datgodio'r Genom Dynol

Nid yw genynnau dynol yn ddeuaidd. Mae 4 gwahanol fas sy'n ffurfio'r cod genetig ac mae pob genyn yn cynnwys nifer fawr ohonyn nhw (o ychydig gannoedd i dros ddau filiwn).

Os edrychwch ar y Gêm Genomau uchod, dim ond 16 gwahanol gyfuniad y mae'r 4 cod deuaidd a ffurfiodd y genom yn eu rhoi. Pe bai pedwar opsiwn ar gyfer pob genyn (fel y pedwar opsiwn ar gyfer pob bas mewn bodau dynol) byddai 256 o gyfuniadau posibl ac ni fyddech yn gallu pennu effeithiau pob genyn drwy'r maint sampl o 5 a roddir yn y gêm.

Mae'r genom Dynol yn cynnwys cyfanswm o ryw 3 biliwn (3,000,000,000) o fasau. Byddai argraffu genom dynol, mewn ffont safonol, yn cymryd rhyw 750,000 taflen A4. Mae'r gwaith o ddatgodio'r genom Dynol yn trafod rhifau enfawr annealladwy a byddai'n amhosibl gwneud hynny heb ddefnyddio cyfrifiaduron.

Er mwyn dadansoddi'r sympiau enfawr o ddata ar gyfer torri'r cod sy'n ein creu ni, rhaid wrth arbenigedd o'r enw Biowybodeg. Mae'n rhaid i'r arbenigwyr hyn ddefnyddio bioleg, cyfrifiadureg, peirianneg gwybodaeth, mathemateg ac ystadegau i gael siawns o helpu'r ymdrech fyd-eang i ddatrys problem ein geneteg.

Allwch chi feddwl am resymau pam y byddem ni am ddatgodio'r genom dynol?

Atebion

Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau


Fersiwn pdf