| Gair Allweddol | Diffiniad |
|---|---|
| Adenillion ar Fuddsoddiad | Faint o arian mae buddsoddwr yn ei gael yn ôl ar ei fuddsoddiad |
| Allforion | Llif nwyddau a gwasanaethau allan o'r wlad i wledydd eraill |
| Amcanion CAMPUS | Amcanion busnes sy'n Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, a Synhwyrol |
| Amcanion Cymdeithasol | Amcanion a osodir o ganlyniad i bwysau cymdeithasol, megis lleihau allyriadau carbon neu gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol. |
| Amlsianel | Defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyrraedd cwsmer |
| Amser Real | Yn fyw neu wrth iddo ddigwydd |
| Anghorfforedig | Busnes sydd heb ei gofrestru fel cwmni ac felly yr un corff yw'r perchenogion a'r busnes, yn ôl y gyfraith |
| Ardoll | Treth ar gynnyrch neu wasanaeth penodol |
| Ased | Eitem gwerthfawr sy'n eiddo i unigolyn neu fusnes |
| Atebolrwydd Cyfyngedig | Cyfyngir risg y golled i gyfanswm yr arian a fuddsoddir yn y busnes |
| Atebolrwydd Llawn | Mae lefel y risg yn uwch na'r swm a fuddsoddwyd sy'n golygu y gellir defnyddio eu hasedau i ad-dalu dyledion y busnes |
| Banc Lloegr | Banc canolog y DU. Mae'n rheoli dyledion y wlad, yn gosod cyfraddau llog ac yn dylanwadu ar y gyfradd gyfnewid rhwng y bunt ac arian cyfred arall |
| Benthyciad Banc | Swm penodol o arian a fenthycir o fanc. Rhaid ei ad-dalu gyda llog trwy daliadau a osodir dros gyfnod cytunedig |
| Breiniwr | Busnes sefydledig sy'n rhoi caniatâd i entrepreneur fasnachu gan ddefnyddio ei enw a'i gynnyrch |
| Buddsoddiad | Arian a roddir i fusnes gyda'r bwriad o wneud elw |
| Cenhedlaeth Y (a elwir hefyd yn Fileniaid) | Yn cyfeirio at bobl a anwyd rhwng 1980 a 2000 |
| Corfforedig | Busnes sydd wedi ei gofrestru fel cwmni, er mwyn gwahanu'r perchenogion a'r busnes yn gyfreithiol |
| Credyd | Arian a fenthycir i fusnes gan sefydliad ariannol neu gyflenwr y mae'n rhaid ei ad-dalu yn ystod cyfnod cytunedig |
| Credyd Masnach | Credyd a gynigir gan gyflenwyr i fusnesau yn unig |
| Cwcis | Ffeiliau bach sy'n cael eu cadw ar gyfrifiadur cwsmer pan fydd yn ymweld â gwefan ac sy'n cofnodi manylion yr ymweliad y gall y wefan gael mynediad atynt eto yn ystod ymweliadau yn y dyfodol. |
| Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC) | Busnes corfforedig sy'n gallu gwerthu cyfranddaliadau i'r cyhoedd |
| Cwmni Cyfyngedig Preifat | Busnes corfforedig sy'n eiddo i'r rhanddeiliaid |
| Cydymffurfio | Ufuddhau i orchymyn, y gyfraith neu fodloni set o safonau |
| Cyfalaf cyfrannau | Yr arian a godir trwy werthu cyfranddaliadau'r cwmni i fuddsoddwyr |
| Cyfalaf Menter | Arian a fuddsoddir gan unigolion neu grwpiau mewn busnes newydd |
| Cyfleustra | Pa mor hawdd yw cael gafael ar gynnyrch neu wasanaeth heb amharu'n fwy nag sydd raid ar ffordd o fyw neu drefn arferol y cwsmer |
| Cyflog Byw Cenedlaethol | Isafswm y gall busnes ei dalu i gyflogai, yn ôl y gyfraith |
| Cyfnewidfa Stoc | Man lle gellir prynu neu werthu cyfranddaliadau mewn cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus (ccc) |
| Cyfnod sefydlu | Cyfnod ar ddechrau contract pob cyflogai pan fo'n rhaid dangos iddynt sut i weithio'n ddiogel ac o fewn disgwyliadau'r cyflogwr |
| Cyfran Marchnad | Cyfran gwerthiant un busnes yn y farchnad |
| Cyfranddalwyr | Buddsoddwyr sy'n rhan-berchenogion cwmni. Maen nhw'n buddsoddi er mwyn ennill cyfran o'r elw a hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol |
| Cyfryngau Cymdeithasol | Gwefannau sy'n galluogi defnyddwyr i ryngweithio a rhannu negeseuon/lluniau/cysylltiadau |
| Cyfuniad Hyrwyddo | Cyfuniad o weithgareddau hyrwyddo a ddefnyddir i ehangu ymwybyddiaeth defnyddwyr o'r cynnyrch er mwyn cynyddu'r gwerthiant |
| Cyllidebau | Targedau ariannol rhagosodedig i fusnes eu cyflawni mewn cyfnod penodol |
| Cymdeithas Fasnach | Cymdeithas wedi ei ffurfio a'i hariannu gan fusnesau sy'n gweithio mewn diwydiant penodol |
| Cymhelliad | Taliad neu rodd i annog rhywun i wneud rhywbeth |
| Cynllun Busnes | Dogfen sy'n amlinellu sut bydd entrepreneur yn mynd ati i sefydlu busnes newydd |
| Cynnyrch sy'n cynyddu'r swmp | Cynnyrch sy'n fwy na'r deunyddiau crai a ddefnyddir i'w greu |
| Cynnyrch sy'n lleihau'r swmp | Cynnyrch sy'n llai na'r deunyddiau crai a ddefnyddir i'w greu |
| Dadansoddiad | Proses o edrych ar ddata er mwyn adnabod patrymau a thueddiadau |
| Dadansoddiad SWOT | Astudiaeth gan fusnesau i adnabod Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau |
| Darfodedig | Wedi dyddio neu ddim yn cael ei ddefnyddio erbyn hyn |
| Data | Gwybodaeth y gellir ei chasglu a'i dadansoddi - yn fwyaf aml ar ffurf ystadegau |
| Datganiad Incwm | Dogfen ariannol sy'n dangos swm yr arian y mae busnes wedi ei ennill a'i wario yn ystod cyfnod penodol |
| Dechrau Busnes | Busnes newydd - gyda nifer fach iawn o staff, fel arfer |
| Deddfwriaeth | Y deddfau y mae'r rhaid i fusnes gydymffurfio â nhw |
| Defnyddiau Traul | Eitemau a ddefnyddir gan fusnes ac sy'n rhaid eu prynu yn rheolaidd (er enghraifft; pennau ysgrifennu, papur, styffylau) |
| Defnyddiwr | Rhywun sy'n prynu ac yn defnyddio nwyddau a/neu wasanaethau |
| Deiliad braint | Entrepreneur sy'n talu ffi er mwyn masnachu gan ddefnyddio enw a chynnyrch busnes sefydledig |
| Demograffig | Yn ymwneud â'r boblogaeth, megis oed cyfartalog neu incwm cyfartalog |
| Dilys | Mae'r ffeithiau sylfaenol yn gywir neu yn gadarn |
| Dirwasgiad | Cyfnod o ddirywiad economaidd sy'n disgrifio methiant economi i dyfu am chwe mis yn olynol |
| Economi | System cynhyrchu a defnyddio arian a nwyddau gwlad |
| E-Fasnach | Trafodion busnes a wneir dros y we |
| Elw | Swm y refeniw sy'n weddill ar ôl tynnu'r costau. |
| Elw a gedwir | Yr arian y mae busnes yn ei gadw yn lle ei dalu i'r cyfranddalwyr |
| Elw Gros | Swm elw busnes cyn didynnu'r costau |
| Entrepreneur | Rhywun sy'n sefydlu busnes |
| Ffrwd Incwm | Ffynhonnell incwm rheolaidd y mae busnes yn ei dderbyn. Gall fod oddi wrth gwsmeriaid neu fuddsoddwyr |
| Ffynhonnell | Lle, person neu beth y cafwyd gwybodaeth ohono |
| Globaleiddio | Busnes sy'n gweithredu'n rhyngwladol a chanddo ddylanwad neu rym cynyddol yn rhyngwladol |
| Gofal Rhesymol | Ystyr hyn, yn ôl cyfraith defnyddwyr, yw cynnig gwasanaeth sy'n addas i gwsmeriaid |
| Gorbenion | Costau penodol rhedeg busnes nad ydynt yn cael eu heffeithio gan nifer y cynhyrchion neu'r gwasanaethau sy'n cael eu gwerthu |
| Gorddrafft | Cyfleuster sy'n cael ei gynnig gan fanc er mwyn galluogi deiliad cyfrif i fenthyca arian ar fyr rybudd os ydych yn gwario mwy o arian nag sydd ar gael |
| Greddf | Gwybod rhywbeth yn reddfol neu ddeall rhywbeth yn rhwydd heb feddwl amdano'n ormodol |
| Grŵp Ffocws | Grŵp o bobl sy'n adolygu cynnyrch, gwasanaeth, hysbyseb neu syniad (gellir ei wneud wyneb yn wyneb neu ar lein) |
| Gwahaniaethu | Pan gaiff rhywun ei drin yn wahanol oherwydd nodwedd benodol megis rhywedd, ethnigrwydd, anabledd |
| Gwahaniaethu rhwng cynnyrch | Dylunio cynnyrch ac iddo nodweddion unigryw sy'n ei wneud yn wahanol i gynnyrch tebyg sy'n cael ei werthu gan gystadleuwyr |
| Gwarant | Mae'n cyfeirio at ased (megis tŷ, neu eiddo busnes) a gynigir yn yswiriant ar gyfer benthyciad. Os na bydd y benthyciad yn cael ei dalu, gall y credydwr hawlio'r ased. |
| Gwarantwr | Person a enwir fydd yn gwarantu bod benthyciad yn cael ei ad-dalu os bydd y person neu'r busnes sy'n benthyca yn methu gwneud y taliadau |
| Gweddill Arian Parod Negyddol | Pan fo'r arian parod sydd ar gael ar ddiwedd cyfnod penodol yn llai na'r arian parod ar y dechrau |
| Gweithred Partneriaeth | Dogfen gyfreithiol sy'n diffinio telerau partneriaeth |
| Gwerthoedd | Safonau ymddygiad neu egwyddorion moesol |
| Gwerthu'n rhatach | Gwerthu'r un cynnyrch â chystadleuydd ond am bris is |
| Gwiriad Credyd | Gwirio statws ariannol unigolyn neu fusnes er mwyn sicrhau bod ganddynt hanes credyd dibynadwy ac nad oes ganddynt ddyledion heb eu talu |
| Gwobr ariannol | Yr arian y mae entrepreneur neu fuddsoddwr yn ei dderbyn os yw busnes yn llwyddo |
| Gwrthdaro | Anghytundeb difrifol rhwng pobl, gwledydd neu syniadau |
| Hyfyw | Dangoswyd ei fod yn gweithio'n iawn neu'n llwyddiannus |
| Inertia | Tueddiad i osgoi newid |
| Llafur | Gweithwyr neu'r gweithlu |
| Llif Arian | Swm yr arian sy'n dod i mewn ac allan o fusnes ac amseriad y symudiadau |
| Marchnad Darged | Grŵp penodol o ddefnyddwyr y mae cwmni yn anelu ei gynnyrch a'i wasanaethau tuag atynt |
| Masnachfraint | Pan fo busnes yn rhoi caniatâd i fusnes arall fasnachu gan ddefnyddio ei enw yn gyfnewid am ffi neu gyfran o'r elw |
| Menter | Gweithgarwch entrepreneuraidd. Fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio cwmni neu fusnes. |
| Methdalwr | Methu talu dyledion a/neu mae arno fwy o arian i eraill nag sydd arno eraill iddo yntau. |
| Mewnforion | Llif nwyddau a gwasanaethau i mewn i wlad o wledydd eraill |
| M-Fasnach | Trafodion busnes sy'n cael eu gwneud trwy dechnoleg symudol (er enghraifft: ffonau clyfar neu lechi) |
| Moeseg | Egwyddorion neu safonau moesol sy'n llywio ymddygiad person neu fusnes |
| Nifer yr ymwelwyr | Nifer y bobl sy'n mynd trwy leoliad penodol yn ystod cyfnod penodol |
| Nodwedd warchodedig | Nodweddion ymgeisydd na ellir eu defnyddio i'w gwrthod, megis beichiogrwydd, rhywedd, crefydd |
| Nwyddau Cyfleus | Cynnyrch y mae cwsmer yn ei brynu yn aml neu fel rheol |
| Nwyddau Da | Cynnyrch y mae cwsmer yn cymryd amser i feddwl amdano cyn ei brynu |
| Partneriaeth | Busnes sy'n eiddo i grŵp o ddau neu ragor o bobl sy'n rhannu'r risg ariannol, y penderfyniadau a'r elw |
| Platfform Taliadau | Yn galluogi busnes i gymryd taliadau ar-lein. Mae'n rhad ac am ddim i'r cwsmer, fel arfer, ond mae'n cymryd comisiwn bach oddi wrth y gwerthwr |
| Pwynt adennill costau | Y pwynt y mae'r holl gostau yn cael eu hadennill gan y refeniw a dderbynnir |
| Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) | Rhywbeth sy'n gwneud i gynnyrch ragori ar gynnyrch y cystadleuwyr |
| Refeniw | Yr arian y mae busnes yn ei ennill trwy werthiannau |
| Refeniw Gwerthiant | Yr arian a ddaw o'r gwerthiant |
| Refeniw Rhagolygol | Rhagfynegi refeniw yn y dyfodol ar sail gwerthiant disgwyliedig (a bennir yn ôl synnwyr cyffredin neu ar sail gwerthiant blaenorol) |
| Rhagfarnllyd | Caniatáu i ddylanwadau effeithio ar benderfyniadau gan arwain at dystiolaeth a gyflwynir yn annheg |
| Rhanddeiliad | Person a chanddo ddiddordeb mewn gweithgareddau busnes, megis cyflogeion/cyflenwyr/cyfarwyddwr/y gymuned leol/y llywodraeth |
| Rhyfel Prisiau | Pan fo busnesau sy'n cystadlu â'i gilydd yn ceisio cynnig prisiau rhatach na'i gilydd byth a beunydd. Dim ond y defnyddiwr sy'n elwa o hyn. |
| Risg | Y posibilrwydd y bydd gan fenter elw is neu golled |
| Sampl | Rhan o'r boblogaeth y gofynnir iddi am ei barn er mwyn dod i gasgliad am ymddygiad y boblogaeth gyfan |
| Segmentiad | Proses torri rhywbeth i lawr yn rhannau llai |
| Siambr Fasnach | Cymdeithas leol ac iddi'r nod o hyrwyddo buddiannau'r busnesau mewn rhanbarth neu sir |
| Siec | Taliad ysgrifenedig o gyfrif banc i berson neu fusnes penodol |
| Telerau'r Taliad | Y cyfnod sydd gan fusnes i dalu ei gyflenwyr |
| Teyrngarwch | Dymuno cefnogi'r un person neu beth bob amser |
| Topograffi | Nodweddion ffisegol tirwedd (er enghraifft; gwastad, bryniog, trefol, gwledig) |
| Treth | Cyfran o incwm unigolyn o elw busnes y mae'n rhaid ei thalu i'r llywodraeth |
| Unig Fasnachwr | Busnes heb ei ymgorffori a chanddo un perchennog |
| Y Farchnad | Y gweithgareddau sydd ynghlwm wrth brynu a gwerthu mathau penodol o nwyddau a gwasanaethau trwy gystadlu â chwmnïau eraill |
| Ymchwil i'r Farchnad | Proses o gasglu gwybodaeth am y farchnad a chwsmeriaid er mwyn helpu i wneud penderfyniadau busnes cytbwys |