Croeso i’r Prosiect Ymchwil i Droseddu.
Diolch i chi am gytuno i gymryd rhan yn yr arolwg. Cofiwch fod dwy ran iddo:
Byddwch chi’n cwblhau’r rhan gyntaf (20 Cwestiwn) yma ac wedyn,
Gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a roddwch chi i ni, fe anfonwn ni glip fideo, holiadur byr iawn ac amlen bwrpasol atoch chi.
Rhaid i chi lenwi’r ddwy adran i chi gael eich cynnwys yn y gystadleuaeth i ennill y talebau siopa.
Caiff eich holl fanylion eu cadw’n gwbl gyfrinachol ac ni fydd y wybodaeth a roddwch yn fodd i’ch adnabod.
Cofiwch nad ymchwil i’r farchnad yw hyn ac na fyddwn ni’n rhoi’ch manylion chi i unrhyw sefydliad arall.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu bryderon, cysylltwch â ni yn: crime-research@aber.ac.uk
Rwyf wedi darllen y wybodaeth am gymryd rhan ac yn cytuno â’i chynnwys:
Yr Arolwg o Droseddu:
Mae’r holiadur yn cynnwys cyfanswm o 20 cwestiwn sydd wedi’u cynllunio i asesu’ch agweddau at drosedd a chosb.
Yn yr adran hon, edrychwch ar yr atebion yn y gwymplen a dewiswch yr un sydd, yn eich barn chi, yn cyd-fynd orau â’ch ateb.
Atebwch BOB cwestiwn – os nad ydych chi’n cytuno’n llwyr â’r gosodiad cyfan neu os ydych chi’n ansicr, ceisiwch roi’ch ateb mwyaf tebygol neu, os na allwch chi benderfynu o gwbl, dewiswch “heb fod yn cytuno nac yn anghytuno”. Os bydd gennych unrhyw sylw ar y cwestiynau, rhowch ef yn y blwch ar y diwedd.
1. Mae cyfiawnhad i garcharu am oes am rai troseddau: Dewiswch Anghytuno’n Gryf Anghytuno Rhywfaint Anghytuno Ychydig Heb fod yn Cytuno nac yn Anghytuno Cytuno Ychydig Cytuno Rhywfaint Cytuno’n Gryf
Mae’r tri chwestiwn nesaf yn holi am y nodweddion y mae pobl yn meddwl y dylen ni GEISIO eu hybu mewn plant. Gall fod adegau pryd y gallai’r ddau ateb, neu ddim un ohonyn nhw, fod yn briodol, ond ceisiwch nodi pa ddewis yw’r un mwyaf priodol, yn eich barn chi, ran amlaf.
Ar gyfer pob cwestiwn, darllenwch y gwymplen, a dewiswch p’un o’r ddwy nodwedd yw’r bwysicaf i’r plentyn fod â hi.
Dewiswch y cwestiwn sy’n adlewyrchu’ch teimladau chi orau:
13. Byddai’n well petai: Dewiswch Plentyn yn ufuddhau i’w r(h)ieni Plentyn yn gyfrifol am ei (g)weithredoedd ei hun
15. Byddai’n well petai: Dewiswch Plentyn yn gwybod sut mae ymddwyn Plentyn â synnwyr a barn gadarn
Mae’r pum cwestiwn olaf yn ymwneud â’ch gwybodaeth am droseddu a’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
Atebwch y cwestiynau hyn hyd eithaf eich gwybodaeth heb ofyn i neb arall na chyfeirio at ddeunydd arall.
16. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae cyfanswm y troseddau treisiol: Dewiswch Wedi gostwng 12% Wedi gostwng 1% Wedi aros tua’r un peth Wedi codi 1% Wedi codi 12%
17. O’i gymharu â 1995, yr oedd nifer y ceir a gafodd eu dwyn yng Nghymru a Lloegr yn 2006/7: Dewiswch Wedi gostwng 61% Wedi gostwng 8% Wedi aros tua’r un peth Wedi codi 8% Wedi codi 61%
18. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae cyfanswm y llofruddiaethau a gyflawnwyd yng Nghymru a Lloegr: Dewiswch Wedi gostwng 17% Wedi gostwng 1% Wedi aros tua’r un peth Wedi codi 1% Wedi codi 17%
19. Faint o newid sydd wedi bod mewn lladrata o dai rhwng 1995 a 2006/07: Dewiswch Wedi gostwng 23% Wedi gostwng 5% Wedi aros tua’r un peth Wedi codi 5% Wedi codi 23%
20. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae’r holl droseddau sydd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Dewiswch Wedi gostwng 8% Wedi gostwng 2% Wedi aros tua’r un peth Wedi codi 2% Wedi codi 8%
Eich Manylion Chi (cofiwch fod eu hangen arnon ni i anfon yr ail ran atoch chi drwy’r post a’ch cynnwys chi yn y gystadleuaeth am y talebau – caiff eich manylion eu cadw’n gwbl gyfrinachol a’u dinistrio ar ddiwedd y prosiect):
Enw:
Cyfeiriad E-bost:
Cyfeiriad Post (gan gynnwys eich Cod Post):
O ran y fformat, hoffwn gael y clip fideo ar: CD-ROM DVD (Ar gyfer defnyddwyr MAC neu os NAD oes gyriant CD ar eich cyfrifiadur)
Rhyw: Dewiswch Gwryw Benyw
Oedran (mewn blynyddoedd):
Galwedigaeth:
Ydych chi erioed wedi dioddef trosedd? Dewiswch ydw nac ydw
Pa mor hir yn ôl? Erioed wedi dioddef trosedd Yn ystod y mis diwethaf Yn ystod y chwe mis diwethaf Rhwng 6 mis a blwyddyn yn ôl Dros flwyddyn yn ôl
Diolch i chi am gymryd rhan. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu awgrymiadau pellach, ysgrifennwch nhw yn y blwch isod.
Os ydych chi wedi gorffen, cliciwch ar ‘cyflwyno’ ac yna cewch gau’ch porwr gwe pan welwch chi’r tudalen cadarnhau.
Fe gewch chi glip fideo a holiadur byr arall ymhen rhyw bythefnos.
Os llenwch chi hwnnw a’i ddychwelyd, cewch eich cynnwys yn y gystadleuaeth am y talebau siopa.
Sylwadau neu awgrymiadau: