Ymunwch gyda ni

Proffil y Pwyllgor

Cydgysylltwraig y Merched


Cydgysylltydd y Dynion


Swyddog Ymgyrchoedd

Fy enw i yw Emma, a dwi angen eich help chi! Dwi’n trefnu ymgyrchoedd ar gyfer AberBalch eleni, a gall bawb gymryd rhan, cael hwyl a gwneud y byd yn le gwell. Dwi’n fyfyrwraig yn y drydedd flwyddyn yn astudio celf a Saesneg ac mae gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, creadigrwydd a phobl, ac rydym angen y rhain i gyd ar gyfer ein hymgyrchoedd! Dwi’n hoffi amrywiaeth o bethau - darllen, cydraddoldeb, coginio, peintio, materion ‘queer’, tynnu lluniau, dillad hipi, rhyddid, comics ar y we, gwylio adar, ffeministiaeth, gweu, Muse, ‘geekery’, ysgrifennu, Radio 4, barddoniaeth, gitâr acwstig, canu, News 24, actio, rhyddid, Ani Difranco, port, enfysau, jôcs ofnadwy, cael hwyl gyda ffrindiau a mynd yn flin ar y we. Dwi fel arfer yn cymryd rhan yn nigwyddiadau AberBalch, yn trafod materion o bwys a sgwrsio hwylus - buaswn wrth fy modd yn eich cwrdd i gyd a dweud sumai! Gobeithiaf y gallwn ni gael amser gwych, yn mwynhau mewn cyfarfodydd cymdeithasol ac ymdrechu’n frwd yn ein hymgyrchoedd!
Mi wela’ i chi’n fuan,
Emma

 

Swyddog Digwyddiadau

Sumai, Pete dwi. Fi yw’r Swyddog Adloniant am y flwyddyn hon. Dwi’n fyfyriwr yn yr ail flwyddyn yn astudio Amaethyddiaeth gyda Rheolaeth Cefn Gwlad, felly bachgen ffarm mewn gwirionedd a gallwch fy nghanfod yn aml ar y môr yn ceisio dal y tonnau. Dwi yma i sicrhau’ch bod chi’n cael hwyl yn ein cyfarfodydd cymdeithasol a’ch bod yn cymryd rhan yng ngweithrediad y gymdeithas...Mae yn achlysur misol o’r enw Sîn lle da ni’n cael pawb at ei gilydd i gael amser gwych, gyda diodydd rhad iawn. Felly ymunwch â ni ar gyfer hyn. Mae cerddoriaeth wych hefyd i chi ddawnsio trwy’r nos. Dwi ddim y person mwyaf siaradus ond mae croeso i chi ddod ata’ i gyda’ch awgrymiadau, wedi’r cyfan mae’r cyfarfodydd cymdeithasol ar eich cyfer chi. Felly, mwynhewch eich hunain eleni ac mi welwch chi mi o gwmpas dre.
Pete

 

Ysgrifennydd

Helo, fy enw i yw Gabriel a fi yw Ysgrifennydd AberBalch. Dwi’n fyfyriwr yn yr ail flwyddyn yn astudio Bioleg a Biohysbyseg. Yn wreiddiol, dwi’n dod o ardal i’r gogledd o Lundain ond dwi wrth fy modd yma yn Aberystwyth. Dwi’n hoff iawn o gomics y we a cherddoriaeth gwerin ac felly wedi fy ngwahardd rhag y bwth DJ yn Sîn.
Chwiliwch amdana i yn y cyfarfodydd cymdeithasol, mi fyddai’n gwisgo’r coler ci.
Mae’r pwyllgor yn gyfeillgar iawn felly os oes gennych unrhyw broblemau, neu eisiau sgwrs, da ni yma i chi, a gobeithio y byddwch yn dychwelyd bob tro i Balch. Mae fy nyletswyddau i fel ysgrifennydd yn cynnwys gofalu am y rhestr aelodau, gyrru e-byst, gofalu am y wefan a chadw cofnodion yn y cyfarfodydd.
Mi wela’ i chi o gwmpas,
- Gabe

 

Am y Gymdeithas
Y Cyfansoddiad
Proffil y Pwyllgor

aberpride society entertainments scene socials resources gay bi lesbian trans students guide fun university aberystwyth

Facebook