Gyda'r enw swyddogol 'Ffiseg mathemategol', sydd braidd yn gamarweiniol, mae'r modiwl darlithoedd a gweithdai yma'n adeiladu ar y modiwlau blwyddyn 1af cyflwynol Mathemateg yn y cynlluniau gradd Mathemateg a Ffiseg. Y bwriad yw cyflwyno ffisegwyr i'r syniadau ychydig mwy cymhleth mathemategol sydd eu angen pan yn gwneud ffiseg ar lefel broffesiynol ac i ddangos i fathemategwyr rhai defnyddiau ymarferol o'u syniadau. Yn wythnosol, dwy ddarlith a gweithdy dwy awr sydd i'r modiwl.
Nodwch mai pwrpas y nodiadau yma yw'ch helpu i adolygu. Fodd bynnag, gallaf ychwanegu defnydd yn y darlithoedd, neu efallai ni fyddaf yn cynnwys gyd o'r defnydd sydd arlein yma.
Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio'r taflenni datrysiadau wedi i chi ymgeisio'r problemau a'u trafod gyda cydfyfyrwyr a staff yn ystod y gweithdai. Mae yna hefyd taflen gymorth ar gyfer adolygu.
Rwy'n ffeindio fod llyfr Mary L Boas, Mathematical Methods in the Physical Sciences, New York: Wiley, 21983 yn ddefnyddiol iawn. Mae llawer o'r esiamplau yn y gweithdai wedi eu seilio ar y llyfr hwn. Mae yna rhai copiau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.