English

Tudur Davies


Manylion cyswllt

ebost: itd at aber dot ac dot uk
Adran Mathemateg
Prifysgol Aberystwyth
Rhif ffon: +44(0)1970622813

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn bennaf mewn modelu llifyddion cymleth fel ewynnau dyfrllyd, deunydd sydd ag ystod eang o ddefnyddiau domestig a diwydiannol.
Mae'r rhan helaeth o fy ngwaith ymchwil hyd yma yn defnyddio model lled statig a meddalwedd y Surface Evolver er mwyn modelu ewynnau ar raddfa swigod. Yn benodol rwyf wedi astudio sut mae ewynnau yn rhyngweithio â gwrthrychau solid, proses sy'n greiddiol mewn diwydiant, er enghraifft mewn arnofiant ewyn ar gyfer gwahanu mwynau.

Prosiectau PhD

Cysylltwch â mi os oes gennych ddiddordeb astudio PhD yn y maes uchod. Rwy'n awyddus i oruchwylio prosiectau sy'n ymwneud â modelu llifyddion cymhleth, ac felly bydd myfyrwyr addas â chefndir mewn mathemateg cymhwysol ac yn meddu ar sgiliau rhaglennu da.

Erthyglau Ymchwil

I.T. Davies a C. Raufaste (2021). Effect of gravity on the orientation and detachment of cubic particles adsorbed at soap film or liquid interfaces. Soft Matter, 17, 6964-6971. Rhagargraffiad.

S.J. Cox ac I.T. Davies (2021). The evolution of numerical methods for predicting the distribution of surfactant in the bubble-scale dynamics of foams. Curr. Opin. Coll. Interf. Sci. 53, Mehefin 2021, 101440. Rhagargraffiad

S.J. Cox ac I.T. Davies (2020). Bubble entrainment by a sphere falling through a horizontal soap foam. EPL. 130: 14002. Rhagargraffiad

I.T. Davies (2018). Simulating the interaction between a descending super-quadric solid object and a soap film. P Roy Soc A-Math Phy, 474(2218), p.20180533. Fersiwn ddrafft pdf.

S.J. Cox ac I.T. Davies (2016). Simulations of quasi-static foam flow through a diverging-converging channel. Korea-Australia Rheology Journal 28: 181. Fersiwm ddrafft pdf.

I.T. Davies, L. Garratt a S.J. Cox (2015). Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan. Gwerddon, 20, Hydref 2015, 30-43. Fersiwn ddrafft pdf.

D.R. Lipsa, R.S. Laramee, S.J. Cox ac I.T. Davies (2013). Visualizing 3D Time-Dependent Foam Simulation Data. Advances in Visual Computing, Lecture Notes in Computer Science, 8033:255-265.Rhagargraffiad

I.T. Davies, S.J. Cox a J. Lambert (2013). Reconstruction of tomographic images of dry aqueous foams. Coll. Surf. A, 438:33-40. Rhagargraffiad

S.J. Cox, D.R. Lipsa, I.T. Davies ac R.S. Laramee (2013). Visualizing the dynamics of two-dimensional foams with FoamVis. Coll. Surf. A 438:28-32. Rhagargraffiad

I.T. Davies a S.J. Cox (2012). Sphere motion in ordered three-dimensional foams. Journal of Rheology 56:473-483. Rhagargraffiad

D.R. Lipsa, R.S. Larammee, S.J. Cox ac I.T. Davies (2011). FoamVis: Visualization of 2D Foam Simulation Data. IEEE Transactions on Visualization and Computer Graphics 17:2096-2105. Rhagargraffiad

I.T. Davies a S.J. Cox (2010). Sedimentation of an elliptical object in a two-dimensional foam. J. Non-Newt. Fl. Mech. 165:793-799. Rhagargraffiad

I.T. Davies a S.J. Cox (2009). Sedimenting discs in a two-dimensional foam. Coll. Surf. A 344:8-14. Fersiwn ddrafft pdf.

A. Wyn, I.T. Davies a S.J. Cox (2008). Simulations of two-dimensional foam rheology: localization in linear Couette flow and the interaction of settling discs . Euro. Phys. J. E 26:81-89.Fersiwn ddrafft pdf.

Addysgu

Dyma'r modiwlau rwy'n cyfrannu tuag at eu haddysgu ar hyn o bryd:

Blwyddyn 1

MT10610 Calcwlws
MP10610 Calculus
MT11010 Algebra a Chalcwlws Pellach
MA15210 Games, Puzzles and Strategies 2

Blwyddyn 2

MT21510 Dadansoddiad Cymhlyg
MA25220 Introduction to Numerical Analysis and its Applications
MT25220 Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymhwysiadau
MT25610 Hydrodynameg 1

Blwyddyn 3

MT34210 Dulliau Asymptotig mewn Mecaneg
MT39020 Cyflwyniad i Addysgu Mathemateg mewn Ysgol Uwchradd

Blwyddyn 4

MTM9720 Prosiect Llai
MAM9720 Minor Project
MTM9840 Prif Brosiect
MAM9840 Major Project

Rwyf hefyd wedi cyfrannu sesiynau dysgu yn y modiwlau canlynol yn y gorffenol:

MT10110 Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd
MT10310 Tebygoleg
MA10510 Algebra
MT11310 Ystadegaeth
MT34110 Hafaliadau Differol Rhannol

Estyn Allan

Dyma enghreifftiau o'r sesiynau mathemateg rwy'n eu cynnig i ysgolion fel rhan o weithgaredd estyn allan yr Adran Fathemateg.

Mathemateg gyda Swigod

Mae ewyn neu glwstwr o swigod yn naturiol yn lleiafsymio cyfanswm ei arwynebedd, ac o ganlyniad mae ei strwythur yn bodloni rheolau mathemategol (fel Deddfau Plateau a Deddf Laplace-Young). Yn y cyflwyniad hwn, byddwn yn archwilio'r rheolau mathemategol yma yn weledol. Byddwn yn mynd ymlaen i geisio defnyddio swigod er mwyn datrys Problem Steiner. Mae'r broblem hon yn ymwneud â chysylltu safleoedd fel dinasoedd â'u gilydd yn y ffordd mwyaf effeithlon posib, hynny yw gyda ffyrdd neu reilffyrdd â'r cyfanswm hyd byrraf posib.

Mae'r cyflwyniad yma'n cynnwys cyfrifiadau trigonometreg, defnyddio theorem Pythagoras, a rhywfaint o galcwlws (differu). Gellir ei addasu i siwtio dysgwyr o unrhyw flwyddyn addysg uwchradd. Mae'r cyflwyniad wedi cael ei addasu i wefan yn dilyn cyfyngiadau ar ymweliadau i ysgolion o ganlyniad i Covid-19.

Mathemateg mewn Chwaraeon

Yn ogystal â mathemateg, mae gen i ddiddordeb mewn pob math o chwaraeon. Mae yna nifer o broblemau mewn chwaraeon y gellir eu hystyried fel rhai mathemategol, er enghraifft:

Aelodaeth


Dilynwch fi