| HAFAN |
"here we come - dyma ni'n diwad" Aberystwyth 2 + 3 June, 2006 :: manylion yr achlysur |
|||||||||||||
|
||||||||||||||
|
:: trefniadau ymarferol: cofrestru, llety, teithio :: trefnwyr :: cysylltwch â |
|||||||||||||
|
Boggins a Burryman, Paper Boys a Pace Eggers, Hodeners a Plough Stots… Wren-boys, Furry-dancers, Bottle-kickers, Cheese-rollers, Tar-barrel carriers … y Fari Lwyd a’r Obby Oss a’r Straw Bear… Yn ddiweddar mae ffigurau newydd wedi ymuno â’r ffigurau traddodiadol hyn yng nghalendr perfformiadol Prydain, megis carnifalwyr, y noson ieir, paredwyr cariad ac ymgyrchwyr ailhawlio’r stryd, sef enghreifftiau o’r hyn y gellir eu gweld yn “berfformio gwerin” cyfoes. Yng nghefn gwlad a’r trefi, mae arferion, digwyddiadau a gweithgareddau atyniadol ac egnïol yn cael eu cynnal ar ddyddiadau ac achlysuron penodol, yn bennaf gan bobl na fyddent yn eu gweld eu hunain yn artistiaid, yn ôl pob tebyg. Mae rhai yn mynd yn ôl yn bell i’r gorffennol, a rhai eraill wedi ymddangos yn ddiweddarach; mae pob un yn amlygu creadigrwydd lleol parhaol. Maent yn amrywio o ddramâu gwerin esboniadol i gemau cyfranogol; maent yn cynnwys elfennau o guddwisgo a chamreoli, ffraethineb a gwrthsefyll. Bu’r rhan fwyaf yn destunau astudio academyddion llên gwerin ac astudiaethau rhanbarthol; ond ychydig sydd wedi edrych arnynt o safbwynt astudiaethau perfformio. Er mwyn unioni hynny, ac i gyd-fynd â dechrau cyfres gysylltiedig o astudiaethau ar archifo perfformiadau, mae Grŵp Ymchwil Astudiaethau Perfformio PCA yn trefnu symposiwm byr ar gysyniadau ac enghreifftiau o berfformio gwerin, yn draddodiadol ac yn gyfoes; yn ogystal â sut maent yn cael eu cofnodi, a’u dylanwad ar artistiaid cyfoes. Mae’r digwyddiad hwn yn cyd-fynd â’r arddangosfa ‘Folk Archive – Contemporary Popular Art from the UK’ yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, o dan guradiaeth Jeremy Deller, enillydd Gwobr Turner, ac Alan Kane. (27 Mai – 15 Gorffennaf 2006) Bydd arolwg Deller a Kane ar ystyr ‘celf werin gyfoes’ yn fan cychwyn i ystyried y themâu isod: - natur creadigrwydd perfformiadol gwerinol - cyfoesedd arferion a elwir yn draddodiadol fel mynegiant cymunedol parhaol - - dylanwad celf werin ar artistiaid perfformiadol cyfoes, a sut y meddiannir ei motiffau - - hel ac archifo arferion diwylliannol dros-dro “…Os newidiodd arferion celfyddydol yn y degawdau diweddar, mae’r hyn y gellir ei alw’n gelf werin wedi newid hefyd, ac mae’n rhaid inni ystyried perfformio a gweithredu, fideo a gosodiadau.” (Deller & Kane, Folk Archive: Contemporary Popular Art from the UK, Llundain: Book Works 2005)
RHAGLEN Nos Wener 2 Mehefin, bydd Deller a Kane yn cyflwyno’r ‘Archif Gwerin’ a chymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus o themâu a nod yr archif. Ddydd Sadwrn 3 Mehefin fe gynhelir darlithoedd a sgyrsiau manwl ag ymarferwyr ac archifyddion perfformio gwerin, sy’n gweithio yng Nghymru ac yn Lloegr. Ymhlith y gwesteion a gadarnhawyd eisoes mae Doc Rowe, casglwr o fri; Bedwyr Williams, artist; Bernard Fishlock (Marshfield Mummers); ac aelodau o bartïon y Fari Lwyd. Yn y sesiwn olaf bydd artistiaid perfformiadol yn trafod arwyddocâd arferion traddodiadol i’w gwaith.
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am y rhaglen.
TÂL COFRESTRU: AM DDIM
Archebwch le drwy gysylltu â Dr Heike Roms yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn fodlon rhoi gwybodaeth am lety lleol a threfniadau teithio.
Llywyddir y symposiwm gan: Mike Pearson, Athro Astudiaethau Perfformio, Prifysgol Cymru Aberystwyth Dr Mikel Koven, Astudiaethau Ffilm, Prifysgol Cymru Aberystwyth Dr Heike Roms, Astudiaethau Perfformio, Prifysgol Cymru Aberystwyth
Gyda chydweithrediad Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth (Arddangosfeydd: Eve Ropek)
|
||||||||||||||