Hen bapurau arholiad Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd

Trefn y dudalen yma: -

Hen bapur arholiad 2007 BSc

Hen bapurau arholiad eraill BSc

Hen bapur arholiad 2007 HND

Hen bapurau arholiad eraill HND

 

   

 

 

Hen bapur arholiad 2007 BSc

PRIFYSGOL CYMRU  :  UNIVERSITY OF WALES

 ABERYSTWYTH

 ARHOLIADAU GRADD SEMESTER 1, 2007

 SEFYDLIAD Y GWYDDORAU GWLEDIG

 RS25320 BWYD, FFERMIO A'R AMGYLCHEDD/FOOD, FARMING, AND

 THE ENVIRONMENT

 AMSER A GANIATEIR: DWY AWR

 ATEBWCH DRI CHWESTIWN 

1             Disgrifiwch y berthynas rhwng cnwd ac amrywiaeth yng

nghyd-destun glaswelltiroedd, a thrafodwch ei goblygiadau amaethyddol.

 
Amlinellwch ddamcaniaeth tebygolrwydd, defnydd gwahaniaethol o adnoddau, osgoad o afiechydon, 
y berthynas cynnyrch / amrywiaeth, gwrthsafiad i 
eithafion amgylcheddol dros amser a gofod. Beirniadaeth o arbrofion math Tilman. 30%
 
Amlinellu model crwca Grimme hy. Cynhyrchedd uchaf yn gysylltiedig gyda 
glaswelltiroedd amaethyddol tlawd mewn rhywogaethau.
 
Cymharu a chyferbynnu’r ddau ddamcaniaeth, cysylltu hyn i laswelltiroedd 
lled-naturiol, glaswelltiroedd wedi’i wella a’i hanes esblygol. 40%
 
 

2.        Cymharwch effeithiau amgylcheddol uniongyrchol ac

anuniongyrchol dwysáu amaethyddol.

 
Effeithiau uniongyrchol – effeithiau uniongyrchol plaladdwyr = Effeithiau gwenwynig (diffyg penodoldeb, drifft a 
biochwyddiad), y defnydd o wrtaith (organig anorganig), 
llygredd, colled o amrywiaeth, adenilliad o dir amaethyddol – colled o gynefinoedd 30%.
 
Effeithiau anuniongyrchol – Lleihad yn argaeledd bwyd = Ansawdd cynefinoedd wedi dirywio, o ganlyniad i 
ddefnydd plaladdwyr a newid mewn systemau 
amaeth-amgylcheddol (Cylchdroadau, ffermio cymysg, isrywogaethau).
 Mecaneiddio, cynydd mewn maint caeau ayb 30%.
 
Cymhariaeth o’r uchod h.y. newidiadau dros amser ar yr amgylchedd e.e. adar a chymhariaeth gyda newidiadau mewn 
canfyddiad y cyhoedd yn dilyn y ‘Silent Spring’ a’r mudiad organig a fy ganlyn. 
 
 
3.        Trafodwch pam mae angen i amaethwyr ddeall ecoleg poblogaeth.
 
Ecoleg Poblogaeth gymhwysol yw amaethyddiaeth.
 
Deall strategaethau hanes bywyd yn hanfodol ar gyfer deall rhywogaethau plâu. 
Strategyddion r a’i gallu i atgenhedlu a gwasgaru 20%.
 
Ecoleg a rheoleiddiad o boblogaethau rhywogaeth sengl, 
dwysedd cnydau / cyfraddau stocio (Dibyniaeth ar ddwysedd – hunandeneuo) 20%
 
Angen deall systemau aml-rywogaeth / Cystadleuaeth
 
Ecoleg chwyn, plâu ac afiechydon = Lleihau’r cynnyrch o rywogaethau annymunol 20%.
 
Ecoleg systemau aml-gnwd a stoc = Optimeiddio cynhaeaf, ymelwa gwahanol adnoddau ac amledd afiechydon.
 
Adnabod dwyseddau ac amlder cyflawn rhywogaethau 20%.
 
Crynodeb ac integreiddiad o boblogaethau dros amser ac eu rheolaeth trwy gylchdroeon 20%
 
 

4.        Trafodwch effaith polisi amaethyddol yr UE ar DU ar systemau

Ffermio’r DU ac ar yr amgylchedd.

 
Strwythur ffermio yn y DU yn cael ei ddylanwadu gan bolisďau’r DU a’r UE.
 
Crynodeb byr o hanes y PAC a pholisďau wedi’r rhyfel
 
Diwygiadau’r PAC a’r rhesymau am y diwygiadau.
 
Manylion o newidiadau mewn ffermio yn y DU o ganlyniad i: Cynydd yn yr ardal o dir o fewn 
amaethyddiaeth, newid o ffermio cymysg i systemau arbenigol, 
cynydd mewn uncnydau wedi’u rheoli’n ddwys, polareiddiad o 
systemau cynhyrchiad, cynydd mewn mecaneiddio, llai o ddefnydd o gylchdroadau, 
amrediad genetig cul o rai cnydau, cynydd yn y defnydd o gemegau amaethyddol, 
dwysâd o systemau cynhyrchu anifeiliaid. I gyd yn effeithio ar fioamrywiaeth a’r tirlun.
 
Casgliad – Amlinellu’r tueddiadau, Angen ailgysylltu ffermwyr gyda gweddill y system fwyd, y system gyflenwi fwyd 
gyda chefn gwlad, cwsmeriaid gyda beth maent yn eu bwyta.
 
 

5.        Disgrifiwch fanteision ac effeithiau posibl defnyddio

planhigion cnydau a addaswyd yn enetig (GM) mewn systemau amaethyddol.

 
Diffiniwch y term “wedi’i addasu’n enetig”.
 
Buddion posib – cynyddu cynhyrchiad cnydau bydol, addasu cnydau bwyd ar gyfer gwell lefelau o faetholion, defnydd 
mwy effeithlon o fwyd a phorthiant, goddefiant o straeniau anfiotig, 
llai o ddefnydd o gemegau, diwydiant cemegol wedi’i sylfaenu ar ffermio “Pharming”.
 
Effeithiau posib – Cyflwyniad o alergeddau neu docsinau newydd i blanhigion pan fo genynnau newydd yn cael eu mewnosod, 
genynnau marcio ar gyfer detholiad yn aml yn defnyddio 
gwrthsafiad antibiotigau a gall y genynnau yma wasgaru i ficrobau pathogenaidd yn yr amgylchedd, 
gall rhai nodweddion sydd wedi’u ymgorffori i fewn i gnydau effeithio epiliaeth hadau,
 llif trosglwyddiad o enynnau i’r amgylchedd ac i berthnasau gwyllt o gnydau GM, ‘Technoleg terfynol’.
      
 

6.        Disgrifiwch broses Cynllunio Cadwraethol ar gyfer y Fferm

Gyfan (WFCP) a gwerthuswch sut y gellir ei defnyddio i leihau costau

adnoddau naturiol mewn amaethyddiaeth.

 
Diffiniwch y cysyniad o gynllunio cadwraeth fferm gyfan
 
Disgrifiwch y broses: - Asesiad ffisegol, adnabyddiaeth o aneliadau ac opsiynau, 
paratoad o gynlluniau gweithredu ffurfiol, gweithredu 
cynlluniau gweithredu, arolygu datblygiadau, diweddaru ac adolygu’r cynlluniau.
 
Gall y costau adnoddau naturiol sy’n gysylltiedig gyda ffermio gael eu lleihau – ewtrofeiddo, 
llygredd tarddiad pwynt o blaladdwyr, erydiad pridd, 
llifogydd, digwyddiadau llygredd o wastraff organig, llygredd atmosfferig.
 
Trafodwch opsiynau ar gyfer cyflawni CCFfG.

 

Cwestiynau arholiad Bwyd, Ffermio a’r Amgylchedd BSc

 

2003

 

1.     Cymharwch a chyferbynnwch effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol o ddwysâd amaethyddol.

2.     Trafodwch pam fod angen i amaethwyr ddeall ecoleg poblogaeth.

3.     Disgrifiwch y berthynas cynnyrch / amrywiaeth mewn perthynas â glaswelltiroedd a thrafodwch ei goblygiadau amaethyddol.

4.     Trafodwch y ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar system gyflenwi bwyd y DU.

5.     Trafodwch yr effeithiau/trawiadau posibl i systemau ffermio o ddefnyddio biotechnoleg.

6.     Trafodwch y problemau geir o ddiffinio a mesur cynaladwyedd mewn amaethyddiaeth.

 

2004

 

1.     Trafodwch rôl dibynnedd ar ddwysedd wrth reoleiddio poblogaethau naturiol

2.     Trafodwch fanteision ac anfanteision aml-gnydio

3.     Cymharwch a chyferbynnwch effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol o ddwysâd amaethyddol.

4.     Trafodwch y ffactorau sydd wedi dylanwadu ar system gyflenwi bwyd y DU.

5.     Trafodwch y buddion ac effeithiau posib o ddefnyddio biotechnoleg cnydau mewn systemau ffermio.

6.     Trafodwch y criteria (meini prawf) a’r amcanion y dylai systemau amaethyddol cynaliadwy geisio’i gwrdd.

 

 

2005

 

1.     Amlinellwch arwyddocâd y cystadleuaeth o fewn a rhwng rhywogaethau wrth ragfynegi a all ddau rhywogaeth gydfodoli.

2.     Trafodwch effaith cynefinoedd terfyn wrth leihau effeithiau darniad cynefinoedd.

3.     Trafodwch y berthynas rhwng cynnyrch ac amrywiaeth mewn glaswelltiroedd.

4.     Trafodwch yr effeithiau y mae polisďau amaethyddol hanesyddol a phresennol y

DU a’r UE yn eu cael ar yr amgylchedd a systemau ffermio’r DU.

5.     Trafodwch y berthynas rhwng y system gyflenwi bwyd a materion

pwysig ynglŷn a iechyd dynol yn y DU.

6.     Disgrifiwch yr effeithiau tebygol o gynlluniau cadwraeth fferm gyfan (CCFFG) ar

gostau adnoddau naturiol sy’n gysylltiedig gyda amaethyddiaeth.

 

2006

 

1.     Disgrifiwch a thrafodwch rinweddau gymharol systemau

cnydau aml-gnwd mewn amaethyddiaeth drofannol a thymherus.

2.     Cymharwch a chyferbynnwch ddeinameg poblogaeth rhywogaethau gyda

strategaethau r’ a K’ ac ystyriwch sut gall hyn fod yn arwyddocaol mewn amaethyddiaeth.

3.     Cymharwch a chyferbynnwch effeithiau uniongyrchol ac uniongyrchol plaladdwyr cemegol.

4.     Disgrifiwch y newidiadau sydd wedi digwydd i’r system gyflenwi bwyd yn y DU dros y 50

mlynedd diwethaf, a pha dueddiadau sy’n dylanwadu ar y system yn bresennol ac yn y dyfodol.

5.     Trafodwch y defnydd presennol ac yn y dyfodol o fiotechnoleg mewn amaethyddiaeth.

6.     Trafodwch y defnydd cynaliadwy o adnoddau mewn amaethyddiaeth.

 

 Hen bapur arholiad 2007 HND

 PRIFYSGOL CYMRU  :  UNIVERSITY OF WALES

 ABERYSTWYTH

 ARHOLIADAU HND ac FDSc SEMESTER 1, 2007

 SEFYDLIAD Y GWYDDORAU GWLEDIG

 RD20420 BWYD, FFERMIO A'R AMGYLCHEDD/FOOD, FARMING AND   

 THE ENVIRONMENT

 AMSER A GANIATEIR: DWY AWR

 ATEBWCH YR HOLL GWESTIYNAU

1. Pam mae cynefinoedd ffiniol yn bwysig mewn amaethyddiaeth?
 
Erydiad, cysgod, clustogfeydd, cynefinoedd ar gyfer cyffredinolwyr ysglyfaethol a pheilliol 
ac adar hela, llethu chwyn, offeryn rheolaeth, rheolaeth cwningod ag eraill.
 
2. Amlinellwch effeithiau amgylcheddol uniongyrchol plaladdwyr.
 
Effeithiau gwenwynig uniongyrchol – drifft a defnydd ar rywogaethau anharged, 
biochwyddiad, dyfalbarhad yn yr amgylchedd ac actifedd gohiriedig.
 

 3.  Disgrifiwch sut mae prosesau sy'n dibynnu ar ddwysedd yn

rheoli poblogaethau naturiol.

 
Cynydd mewn cyfraddau marwolaeth, gostyngiad mewn cyfraddau geni, yn effeithio 
oed/maint wrth atgenhedlu, cyfuniad o’r ffactorau yma’n cydbwyso i greu cynhwysedd cludo.
 
4. Amlinellwch ddynameg poblogaeth rhywogaethau strategydd-r a
disgrifiwch pam mae hyn yn berthnasol i reoli rhywogaethau sy'n bla mewn
amaethyddiaeth.
 
Nifer fawr o epil bychan, cylchredau bywyd byr, ond ychydig o adnoddau ar gyfer amddiffyniad. Mae llawer o chwyn, 
pryfed a pathogenau systemau amaethyddol ayb yn strategyddion r’, oherwydd bod systemau amaeth-amgylcheddol 
yn ddeinamig maent yn dynwared digwyddiadau stocastig o gynefinoedd sy’n cael ei ymelwa gan strategyddion r’.
 
5.        Eglurwch pam y gall tyfu dwy rywogaeth o gnydau gyda'i gilydd
fod yn llesol.
 
Manteision gyda chynhyrchiant oherwydd ymelwa cilfachau gwahanol, sefydlogrwydd i amrediad o 
oddefiadau amgylcheddol, digwyddiadau o afiechydon a amddiffyniad o anwadaliadau mewn pris.
 

6.        Amlinellwch y newidiadau chwim a gafwyd yn ddiweddar yn

system cyflenwi bwyd y DU.

 
Crynhoad o siopau adwerthu, cynydd yn maint y sector arlwyo a newidiadau mewn perthnasau cystadleuol o fewn y 
sector fwyd, cynydd yn y defnydd o archfarchnadoedd, pŵer farchnad gynyddol gan nifer llai o adwerthwyr, 
globaleiddiad o farchnadoedd, newid mewn gwerthoedd ac agweddau, bwyd cyfleus.
 

7.        Sut mae amaethyddiaeth yn y DU wedi newid dros y 50 mlynedd

diwethaf?

 
Manylion o newidiadau mewn ffermio yn y DU – Cynydd mewn ardal o dir mewn amaethyddiaeth, 
newid o ffermio cymysg i arbenigedd mewn systemau, 
cynydd mewn uncnydau wedi’u rheoli’n ddwys, polareiddiad o systemau cynhyrchu, cynydd mewn mecaneiddio, 
llai o ddefnydd o gylchdroeon, amrediad genetig cul o rai cnydau, 
defnydd gynyddol o gemegau amaethyddol, dwysâd o systemau cynhyrchu anifeiliaid. I gyd yn effeithio ar fioamrywiaeth a’r tirlun.
 

8.        Beth yw manteision posibl defnyddio cnydau a addaswyd yn enetig (GM)?

 
Diffinio’r term “wedi’i addasu’n enetig”.
 
Buddion posib: - Buddion posib – cynyddu cynhyrchiad cnydau bydol, addasu cnydau bwyd ar 
gyfer gwell lefelau o faetholion, defnydd mwy effeithlon o fwyd a phorthiant, 
goddefiant o straeniau anfiotig, llai o ddefnydd o gemegau, diwydiant cemegol wedi’i sylfaenu ar ffermio.
 
9.        Beth yw'r 'pum rhyddid' ym maes lles anifeiliaid?
 
Rhyddid rhag syched, newyn a diffyg maeth; rhyddid rhag anghysur; rhyddid rhag poen, anaf ac afiechyd; 
rhyddid i fynegi ymddygiad naturiol; rhyddid rhag ofn a dioddefaint.
 

10.        Amlinellwch pa gostau adnoddau naturiol y gellir eu gostwng trwy

ddefnyddio Cynllunio Cadwraethol ar gyfer y Fferm Gyfan (WFCP).

 
Ewtrofeiddiad o gyrsiau dŵr – Nitradau a ffosffadau – lleihad mewn trwytholchiad, 
rheolaeth maetholion, cyllidebau maetholion, clustogfeydd.
 
Plaladdwyr – Lleihau lefelau cefndir, rheolaeth integredig o gnydau, clustogfeydd, ardaloedd wedi’u dynodi ar gyfer dipio defaid. 
 
Erydiad pridd – Peidio gorweithio priddoedd, peidio trin tir gwlyb, cnydau gorchudd, cylchdroeon a gwrteithiau gwyrdd.
 
Llifogydd – cynydd mewn deunydd organig yn y pridd.
 
Gwastraffau organig – asesu cyfleusterau storio, cynllun rheoli gwastraff fferm, asesiadau maetholion yn y pridd.

 

Cwestiynau arholiad BFA HND

 

2003

 

1.     Beth yw cynefinoedd terfyn? Gwnewch grynodeb o pham eu bod yn bwysig i’r amgylchedd.

2.     Disgrifiwch brif nodweddion cynllun fferm amaeth’amgylcheddol ac amlinellwch ei fuddion amgylcheddol.

3.     Disgrifiwch ganlyniadau posib cynhaeafu poblogaethau naturiol.

4.     Amlinellwch ddeinameg poblogaeth rhywogaethau strategaeth r’ a disgrifiwch pam fod hyn yn berthnasol i’r rheolaeth o blâu amaethyddol.

5.     Amlinellwch y prif dueddiadau i’r system gyflenwi bwyd yn y DU o ganlyniad i globaleiddio

6.     Amlinellwch y newidiadau sydd wedi digwydd mewn amaethyddiaeth yn y DU dros y 50 mlynedd diwethaf.

7.     Disgrifiwch y ‘pump rhyddid’ sy’n ynghlwm gyda lles anifeilaidd.

8.     Disgrifiwch y prif ‘ofnau bwyd’ sydd wedi digwydd yn y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf

9.     Beth gynrychiolir gan y term ‘amlswyddogaeth amaethyddol’?

10.                        Beth yw amaethyddiaeth gynaliadwy?

 

 

2004

 

1.     Beth yw egwyddorion rheolaeth cnwd integredig?

2.     Pam fod chwyn a phlâu amaethyddol yn debygol o fod yn strategyddion r’?

3.     Disgrifiwch ganlyniadau posib cynhaeafu poblogaethau naturiol.

4.     Beth yw manteision aml-gnydio?

5.     Disgrifiwch fanteision amaethyddol gwrychoedd

6.     Beth yw’r ffactorau presennol sy’n effeithio’r system fwyd yn y DU?

7.     Paham fod angen diwygio’r Polisi Amaeth Cyffredinol (PAC) yr UE?

8.     Beth yw’r buddion posib o ddefnyddio cnydau wedi’i addasu’n enetig?

9.     Amlinellwch y broses o gynllunio cadwraeth fferm gyfan (CCFFG).

10.                        Beth yw’r pump prif adnodd sydd angen eu defnyddio’n gynaliadwy mewn systemau amaethyddol?

 

 

2005

 

1.     Sut mae ‘cystadleuaeth o fewn rhywogaeth’ yn effeithio maint poblogaeth?

2.     Disgrifiwch nodweddion hanes bywyd rhywogaeth strategaeth – r’.

3.     Disgrifiwch y berthynas rhwng cynnyrch a chyfoeth rhywogaethau.

4.     Trafodwch anfanteision aml-gnydio.

5.     Disgrifiwch fanteision amgylcheddol gwrychoedd.

6.     Pwy newidiadau cyflym a diweddar sydd wedi cymryd lle yn y system gyflenwi bwyd yn y DU?

7.     Trafodwch y prif effeithiau o bolisďau amaethyddol yr UE a’r DU ar ffermio yn y 50 mlynedd diwethaf.

8.     Trafodwch y pump rhyddid mewn lles anifeilaidd

9.     Amlinellwch y buddion posibl o ddefnyddio cnydau wedi’i addasu’n enetig.

10.                        Sut y gall asesiadau o gynaladwyedd amaethyddol gael eu ymgymryd?

 

 

2006

 

1.     Disgrifiwch pam fod y cynhyrchiant o fiomas yn fwy sefydlog mewn glaswelltiroedd yn gyfoethog mewn rhywogaethau nag mewn glaswelltiroedd yn dlawd mewn rhywogaethau pam eu bont yn cael eu datgelu i amgylchiadau eithafol.

2.     Esboniwch sut y mae cynefinoedd terfyn yn effeithio poblogaethau arwahanedig o fewn tirwedd amaethyddol.

3.     Disgrifiwch yr effeithiau anuniongyrchol ar fywyd gwyllt o ddefnyddio plaladdwyr cemegol.

4.     Amlinellwch yr effeithiau posib o gynhaeafu poblogaethau gwyllt.

5.     Cymharwch ddeinameg poblogaeth rhywogaethau gyda strategaethau r’ a K’.

6.     Paham fod yna angen wedi bod am ddiwygiad o’r PAC?

7.     Beth yw’r prif broblemau iechyd dynol yn y DU?

8.     Beth yw’r risgiau posibl wrth ddefnyddio cnydau wedi’i addasu’n enetig?

9.     Disgrifiwch y ddau dull y defnyddir i gyflawni asesiadau o gynaladwyedd amaethyddol.

10.                        Mae’r defnydd cynaliadwy o adnoddau mewn amaethyddiaeth yn golygu’r rheolaeth o bwy adnoddau naturiol?