users.aber.ac.uk

Cyflwyniad byr ar sut i ddefnyddio cysylltiadau cswr i gyhoeddi ar y We.

  1. Ystyr cswr yw Case Sensitive World Read.
  2. Mae cswr yn ddull o gysylltu â storfa ffeiliau trwy Windows Explorer fel modd o roi caniatâd i dudalennau ar y We fod yn ddarllenadwy trwy'r byd. Yn Windows Explorer bydd hyn yn cael ei wneud trwy 'Mapio Gyriant Rhwydwaith'.
  3. Dylid annog unrhyw sy'n dymuno cyhoeddi tudalennau ar y We i fapio i cswr trwy ddefnyddio'r cysylltiad smb priodol yn Windows Explorer (ee, \\smb1\cswr). I ddarganfod pa gysylltiad smb y dylech ei ddefnyddio, edrychwch ar y siart cysylltiadau.
  4. W yw'r llythyren yrru safonol i fapio cysylltiad cswr.
  5. Bydd modd edrych ar dudalennau gwe a gadwyd yn y cyfeiriadur public_html ar yrrwr wedi ei fapio i cswr trwy ddefnyddio porwr Gwe, heb orfod gwneud unrhyw beth arall.
  6. Bydd ffolderi a grëwyd ar gysylltiad cswr naill ai yn FrontPage neu Windows Explorer yn derbyn caniatâd i'w gwneud yn ddarllenadwy trwy'r byd hefyd.
  7. Dim ond tudalennau Gwe neu ddeunydd arall i'w wylio ar y We (ee .pdf, .rtf, .doc, .gif, .jpg, .mov, .wav) ddylid ei gadw ar gysylltiad cswr. Os hoffech chi gael y cyfrif er mwyn gwneud copïau cadw, crëwch gyswllt smb safonol i'r diben hwn (os ydych chi'n defnyddio gweithfan gyhoeddus, gallwch ddefnyddio'r cyswllt gyrrwr M arferol yn unig i wneud hyn).
  8. Mae ar iaith PHP angen nodweddion caniatâd gwahanol. Caiff rhain eu gosod yn awtomatig os y defnyddiwch chi cs yn lle cswr wrth fapio gyriant y rhwydwaith.
  9. Gallwch ddod o hyd i dudalen We yn cynnwys cyfarwyddiadau ynglyn â mapio cysylltiad cswr ar users.aber.ac.uk/cy/resources/network-drives.php
  10. Pan fo cysylltiad cswr yn cael ei wneud trwy ddefnyddio'r dull a amlinellwyd uchod, byddwch yn gweld cynnwys yr hyn y byddech fel arfer yn ei alw yn yrrwr M (neu eich storfa ffeiliau ganolog). Y rheswm am hyn yw fod tudalennau gwe yn cael eu cyhoeddi i mewn i'ch storfa ffeiliau ganolog (y gallwch ei defnyddio hefyd i storio copïau wrth gefn ynddi, yn ogystal ag e-bost ayb. Edrychwch ar i weld nodyn 7 sut y mae gwneud copïau wrth gefn)
  11. Bydd ambell achlysur pan fydd angen i chi newid y caniatâd ar ffeiliau er hynny - edrychwch ar ein cyfarwyddiadau ar sut i newid caniatâd os gwelwch yn dda.
  12. Os oes gennych chi unrhyw broblemau â cswr neu â chyhoeddi tudalennau ar y We, e-bostiwch www@aber.ac.uk am gyngor a chefnogaeth os gwelwch yn dda.