|









 |
|
 |
English
DAVID RUSSELL
HULME, ARWEINYDD
Mae
gyrfa brysur David Russell Hulme fel arweinydd yn mynd ag ef yn
rheolaidd i theatrau a neuaddau cyngerdd mawr ledled Prydain, Iwerddon,
Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Chanada, yn perfformio
gyda Chwmni Opera Brenhinol Canada, Gŵyl Christchurch (Seland Newydd) a
Gŵyl Ryngwladol G&S Buxton, lle’r arweiniodd, llynedd, adfywiad
proffesiynol prin o Princess Ida. Yn 2001 aeth ar daith i
Awstralia a Seland Newydd lle yr arweiniodd gerddorfeydd Talaith
Victoria, Philharmonia Auckland, a Thŷ Opera Sydney, ymhlith eraill.
Mae’n gweithio yn rheolaidd i’r enwog Gwmni Opera Carl Rosa, un o
gwmnïau opereta Saesneg pennaf y byd, fel arweinydd a chôr-feistr. Yn
2004 a 2006 aeth ar deithiau i’r Unol Daleithiau a Chanada gyda’r cwmni.
|
|
Brodor o
Fachynlleth yw David, ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg
Prifysgol Cymru Aberystwyth a dysgodd grefft arweinydd gan y meistr
Syr Adrian Boult. Enillodd raddau MA a PhD am ei waith ymchwil i
gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Prydeinig ac mae wedi cyhoeddi’n
helaeth, gan gynnwys erthyglau yn ddiweddar i’r
New Grove Dictionary
of Music and Musicians
a Proms y BBC. Disgrifiwyd ef yn y cylchgrawn
Opera fel “ein hawdurdod pennaf ar lawysgrifau Sullivan”, ac mae
wedi ymwneud yn agos iawn â chynyrchiadau cwmnïau opera blaenllaw
megis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Cenedlaethol Lloegr,
Cwmni Opera Newydd Sadler’s Wells, Cwmni D’Oyly Carte, ynghyd ag
eraill yn America ac Awstralia. Mae wedi golygu cerddoriaeth
Sullivan ac yr oedd yn ymgynghorydd i ffilm Mike Leigh, Topsy-Turvy,
a enillodd Oscar.
Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Rhydychen ei argraffiad o
Ruddigore
a dorrodd dir newydd ac a gafodd ganmoliaeth gan yr adolygwyr. Ar
hyn o bryd y mae cwmni Opera North yn perfformio’r argraffiad hwn.
Mae gweithiau eraill a olygwyd ganddo i’r un wasg yn amrywio o’r
Paukenmesse gan Haydn i Ail Symffoni Walton. Mae David wedi ennyn
cryn ddiddordeb a chanmoliaeth yn genedlaethol am ei berfformiadau o
gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Prydeinig a esgeuluswyd – er
enghraifft, bu’n arwain Cerddorfa’r National Festival mewn cyngerdd
gyfan o gerddoriaeth gan German yng Ngŵyl Edward German a recordiodd
opereta German, Tom Jones, gyda chast o unawdwyr rhyngwladol.
Fe’i cyhoeddwyd gan Naxos a’i ddewis yn Recordiad y Flwyddyn gan
dderbyn canmoliaeth aruthrol.
Dychwelodd Dr Hulme i Aberystwyth i fod yn
Gyfarwyddwr Cerdd cyntaf y Brifysgol yn 1992. Mae’n adnabyddus yn
lleol fel arweinydd yr Undeb Corawl, Cymdeithas Gorawl Aberystwyth,
a’r Philomusica. |
|
| |
JANICE REES,
CYFEILYDD
Ganwyd Janice ym Maesycrugiau ger Llanybydder ac fe’i haddysgwyd yn
Ysgol Ramadeg Llandysul. Daeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i
astudio Cerddoriaeth, gan ennill gradd BMus yn 1984. Dechreuodd
fyseddu’r piano pan oedd ond pedair oed, a phasiodd ei harholiad Gradd
VIII pan oedd yn 12 oed. Tra oedd yn y Brifysgol bu’n astudio piano gyda
Richard Simm. Ar ôl graddio, bu Janice yn dysgu cerddoriaeth yn Ysgol
Ramadeg Aberdaugleddau ac ar hyn o bryd mae’n Athrawes Gerdd yn Ysgol
Gyfun Aberaeron. A hithau wedi bod yn aelod frwd o adran yr altos am
nifer o flynyddoedd, daeth yn gyfeilydd swyddogol y côr ar ddechrau 1995
wedi ymddeoliad Dr Bernard Smith. |
 |
| |
|
 |
GERAINT JOHN,
SYLFAENYDD/ARWEINYDD
Ganwyd
Geraint John yn Nhre-gŵyr ac astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru
Caerdydd. Bu’n astudio’r soddgrwth yn broffesiynol gyda William Pleeth,
Maurice Eisenberg a Paul Tortelier. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd gyda
Cherddorfa’r Hallé, fe’i penodwyd yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol
Ramadeg Tamworth ac yna yn Loughborough. Yn 1963 daeth i Aberystwyth i
ganu’r soddgrwth yn Ensemble y Brifysgol. Bu Geraint yn arwain nifer o
gorau cyn iddo sefydlu Cymdeithas Gorawl Aberystwyth, sef Cymdeithas
Gorawl Tamworth, Cantorion Grendon, Cymdeithas Gorawl Loughborough,
Undeb Gorawl Aberteifi, Côr Gŵyl Sir Drefaldwyn a Chantorion Aeron. Yn
feirniad eisteddfodol profiadol, ef oedd côr-feistr Côr Eisteddfod
Genedlaethol Machynlleth. Mae Geraint yn parhau i gefnogi’r côr fel
Cyfaill i’r Gymdeithas yn ogystal ag fel aelod ffyddlon o’r gynulleidfa
yn ein cyngherddau. |
|