|
English
STORI'R GYMDEITHAS
GORAWL
Cyn
1970 bu sawl côr yn Aberystwyth, yn arbennig Cymdeithas Gorawl Bwrdeisdref
Aberystwyth. Yr oedden 'nhw
wedi perfformio
oratorios i gyfeiliant organ mewn capeli ac eglwysi lleol, neu yn Neuadd y
Brenin, gan gyflwyno'r un gwaith ar ddwy neu dair noson yn olynol. 'Roedd
grwpiau â chysylltiad â'r Adran gerddoriaeth yn y Brifysgol, fel y cantorion
madrigal, ac yn rhagflaenydd i'r Côr Meibion yr oedd Gleemen y Swyddfa Bost.
Ond erbyn canol y chwedegau yr oedd côr cymysg y dre wedi marw gan adael
bwlch yn ein bywyd cerddorol.
Cododd y syniad o gôr
newydd yn y dre dros goffi yng nghaffi'r Penguin, hoff gyrchfan aelodau
staff yr Adran Gerddoriaeth a'u ffrindiau. Yn gynnar yn hâf 1970
penderfynodd Geraint John, chwaraewr soddgrwth ym mhedwarawd llinynol
proffesiynol yr Adran a feddai brofiad o arwain côr, ynghyd ag ychydig o
ffrindiau oedd yn gantorion brwd, i chwilio a fyddai digon o gefnogaeth.
Anfonwyd gwahoddiad ysgrifenedig i gyfeiriadau penodol ynghyd â gwahoddiad
ychwanegol mwy cyffredinol ar lafar, i gwrdd yn yr hen Ysgol Gymraeg yn
Ffordd Alexandra. Yn y cyfarfod agoriadol ar yr 16ed o Fehefin 1970 yr oedd
y neuadd yn llawn a chefnogaeth frwdfrydig i'r bwriad yn amlwg.
Penderfynwyd
yn eitha' buan y dylid cael patrwm o ddau gyngerdd y flwyddyn. Yn y cyfnod
hwn cynhelid cyngherddau yn Neuadd y Brenin. Bu'r perfformiad cyntaf yn
Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau newydd Aberystwyth yn Nhachwedd
1975.Parhaodd Neuadd y Brenin yn lleoliad i'r cyngherddau gwanwyn tan fis
Mawrth 1979 ac ers hynny bu'r cyngherddau i gyd yn y Neuadd Fawr.
Y perfformiad cyntaf
oedd y bythol boblogaidd Feseia Handel. Bu Geraint John yn arweinydd y côr
o'r cyngerdd cyntaf hwnnw hyd at wanwyn 2002 pan orffenodd ei wasanaeth
ymroddedig i'r côr gyda pherfformiad olaf o'r Meseia i gefnogaeth eithriadol.
Gadawodd y côr yn nwylo tra medrus David Russell Hulme. Mae David yn
adnabyddus fel Cyfarwyddydd Canolfan Gerddoriaeth y Brifysgol. Yn arweinydd
proffesiynol y mae David yn arbenigwr ar waith Gilbert and Sullivan ac mae'n
teithio'r byd y weithio yn yr arbenigedd hon.
Tra'n
dal i neilltuo amser i berfformio'r clasuron canolog fel y Meseia ac Elias,
mae'r côr wedi estyn ei
repertoire gyda
pherfformiadau o Offeren y Coroni a Gosber Urddasol gan Mozart, Petite Messe
Solenelle a Stabat Mater gan Rossini,
Gloria gan Poulenc, Requiem a Magnificat gan John Rutter, Offeren Maria
Teresa a
Paukenmesse gan Haydn,
Carmina Burana gan Orff,
Gerontius a Musicmakers gan Elgar a Carmen gan Bizet.
Mae pob un cyngerdd
yn arbennig gyda'i atgofion neilltuol i'r rhai oedd yn cymeryd rhan ynddo.
Gobeithiwn bod ein cynulleidfaoedd yn teimlo felly hefyd.
 |