Clwb Heicio Aberystwyth Hiking Club


View this page in English or Welsh

                                                                                                                                            


Home

Walks

Pictures

Committee

Socials

Equipment

Constitution

Links

Contact Club


Ymwelwch â'n gwefan facebook NEWYDD

CROESO

Helo a chroeso i wefan y Clwb Heicio! Mae’r clwb bellach dros 30 mlwydd oed, yn dal i ffynnu ac yn dal i feddwl am syniadau newydd a thripiau cyffrous, felly porwch drwy’r wefan hon i weld beth sydd ymlaen.

Mae aelodau’r clwb yn caru’r awyr agored ac maent wrth eu boddau’n darganfod hyfrydwch naturiol rhagorol Cymru, ei mynyddoedd a’r ardal amgylchynol. Rydym yn mynd ar bob math o deithiau heicio o fynyddoedd i gymoedd, ac arfordiroedd i rostiroedd. Mae’r clwb wir yn agored i bawb.

Fel arfer mae’r teithiau ar ddydd Sul ond yn sicr dylech gymryd y cyfle i ddod ar ein penwythnosau i ffwrdd i weld beth sydd gan weddill Prydain i’w gynnig i gerddwyr. Beth bynnag yw’r tywydd rydych yn siŵr o fwynhau, gwneud ffrindiau a chael y gorau o’ch amser yn y brifysgol.     

Cynhelir noson gymdeithasol y clwb bob nos Iau, fyny’r grisiau yn Scholars (dechrau am 8yh), ond rydym yn siŵr o yrru e-bost atoch gyda’r manylion.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â ni, neu dewch i un o’n nosweithiau allan.



Cofiwch "Cerddwn beth bynnag yw’r tywydd!"