|
Ymgyrch Ar
Gyfer Bws Nos Mae'r
ymgyrch i gael bws nos ar gyfer myfyrwyr ar ôl 6yh wedi cael cychwyn
addawol iawn.
Cafodd yr ymgyrch yma ei
lansio ar y laf o Dachwedd gyda help Mark Williams AC, Kirsty
Williams AS, a Jenny Randerson AS, wnaeth gymryd amser o'i bywydau
prysur i helpu Rhyddfrydwyr Aber hel llofnodion ym Mhentre' Jane
Morgan.
Dywedodd Mark Williams: "Roeddwyn
i wrth fy modd yn helpu gr p myfyrwyr Rhyddfrydwyr Democrataidd i
ymgyrchu ar gyfer cael bws nos... Mae hwn yn fater pwysig iawn ar
gyfer diogelwch myfyrwyr, gan y buasai'n ei helpu cyrraedd campws yn
saff yn y nos."
Credai'r Rhyddfrydwyr Aber
y buasai'r bws hwn yn fwy saff, rhatach a ffordd fwy effeithiol ar
gyfer myfyrwyr, ac yn gobeithio, i ddechrau cael y gwasanaeth gael
ar nosweithiau Mercher ar gyfer Reload, ac ar nosweithiau Gwener a
Sadwrn.
Rydym yn awr efo cannoedd
o lofnodion, ond gallwn dal wneud gyda mwy! Os nad ydych wedi
llofnodi'r ddeiseb plîs cysylltwch â ni drwy ein tudalen Facebook (Aber
Night Bus Campaign Group) neu rhowch e-bost i ni
club01@aber.ac.uk Diolch i'r
rhai sydd wedi ein helpu gyda'n hymgyrch ac i'r rhai sydd wedi
llofnodi ein deiseb - mae pob llofnod yn help!
Ein can nesaf ydy siarad
gyda'r brifysgol a chwmnïau bysiau Aber i drio trefnu cynllun peilot.
Mi fyddwn yn e-bostio chi gyda manylion y cynlluniau ar yr ymgyrch
hon, a hefyd rhoi manylion yn ein cyfarfodydd a thrwy Facebook. |