Rwy wedi ymddeol ond bum yn ddarllenydd yn yr Ysgol
Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth, yn arbenigo mewn Ieithyddiaeth.
Mewn cystrawen y mae fy niddordebau ymchwil, o safbwyntiau disgrifiadol a damcaniaethol. Rwy'n gweithio ar y Gymraeg, gan ganolbwyntio'n bennaf ar gaffael a datblygu iaith gan blant bach a phlant ifanc. Os oes gennych ddiddordeb yng nghystrawen y Gymraeg, hwyrach yr hoffech ddysgu am Seminarau Cystrawen y Gymraeg.
Rwy'n hoff iawn o'r iaith lafar bob dydd ac mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar eu nodweddion hyfryd. Ond o ran hwyl a diddanwch, rwy wedi paratoi canllawiau ar gyfer rhai agweddau'r iaith ysgrifenedig ffurfiol ar y We.
Datblygir hefyd rhestr weithiol o newidynnau cystrawen dafodieithol.