Cronfa Cymraeg Plant 3-7 Oed

Data

Oed Nifer y ffeiliau Oriau'r recordiadau
tua ½ awr pob recordiad
Nifer y plant Enwau'r ffeiliau Maint y ffeiliau
Tair 25 12.5 awr 42 c3001 - c3025 418kb
Pedair 31 15.5 awr 63 c4001 - c4031 498kb
Pump 39 19.5 awr 77 c5001 - c5039 859kb
Pump 'a' 44 22 awr 87 c5a001 - c5a044 855kb
Chwech 48 24 awr 96 c6001 - c6048 1.00mb
Saith 52 26 awr 104 c7001 - c7052 1.14mb
Cyfansymiau 239 119.5 awr     4.66mb

Mae yna ddwy garfan: plant rhwng tair a phump, a phlant rhwng pump a saith. Rhoddir oedran y plant gan y rhifolyn cyntaf yn enwau'r ffeiliau. Gwahaniaethir rhwng y ddau grwp pump oed trwy roi 'a' ar ôl rhifolyn plant pump oed y garfan hynaf. Mae gweddill y rhifolion yn rhifo'r ffeiliau o fewn y grwp oedran.

Recordiadau sain tua hanner awr o hyd yw'r data gwreiddiol. Recordwyd nifer fawr o blant rhwng tair a saith oed mewn ysgolion cynradd trwy Gymru.

Mae yna ddwy garfan oedran: 3-5 a 5-7. Recordwyd llawer o'r plant unwaith y flwyddyn am dair blynedd - ond cafwyd colledion ac ychwanegiadau fel yr oedd rhai plant yn methu'r sesiwn recordio a rhai eraill yn dod i'r prosiect o'r newydd.

Roedd y sesiynau recordio yn digwydd yn ysgolion y plant. Defnyddiwyd sefyllfa chwarae gyson yn fwriadol: blwch tywod gan amlaf oedd hwn, a oedd yn dal amryw o deganau, gwrthrychau, olwyn, a phethau a oedd yn gallu dal tywod. Yr oedd yna ychydig o eithriadau yn ystod cyfnod cynnar y prosiect pan ddefnyddiwyd gweithgareddau eraill (fferm, setiau adeiladu, ac ati).

Yr oedd ymchwilydd yn gofalu am y sesiwn. Serch hynny, ennill enghreifftiau o sgyrsiau rhydd oedd yr amcan, ac nid oedd ymgais bwriadol i gael iaith gan ddefnyddio dulliau arbrofol (megis trwy ofyn cwestiynau safonol, defnyddio defnydd gwledol ac ati). Ni siaradai'r ymchwilydd â'r plant ond - a) am resymau cymdeithasol arferol, b) i annog plant swil neu dawel, neu godi sgwrs a oedd yn ffaelu, ac c) i gadw trefn yn wyneb ymddygiad afreolus.