Yn y Gymraeg, o dan ddylanwad geiriau eraill neu batrymau gramadegol, mae sain ddechreuol gair yn newid (yn yr iaith ysgrifenedig, newidir y llythyren gyntaf). Cysefin yw'r term ar gyfer sain ddechreuol cyn iddi newid. Mae yna dri math o newid sydd â'r labeli traddodiadol meddal, trwynol, a llaes. Ni cheisir rhoi yma ddadansoddiad seinegol o'r newidiadau.
Rhoddir yma hefyd fanylion am broses seinegol
arall sy'n effeithio ar eiriau sydd â llafariad yn
gyntaf, megis chwanegu h.
|
Cysefin |
Meddal |
Trwynol |
Llaes |
Chwanegu h |
|
p |
b |
mh |
ph |
- |
|
t |
d |
nh |
th |
- |
|
c |
g |
ngh |
ch |
- |
|
b |
f |
m |
- |
- |
|
d |
dd |
n |
- |
- |
|
g |
gollwng |
ng |
- |
- |
|
ll |
l |
- |
- |
- |
|
m |
f |
- |
- |
- |
|
rh |
r |
- |
- |
- |
|
a,e,i,o,u,w,y |
- |
- |
- |
chwanegu h o'u
blaenau |
Tudalen Flaen Treigladau
yn y Gymraeg