Treigladau yn y Gymraeg

      Bob Morris Jones
      Adran Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth
      bmj@aber.ac.uk


      Cyn: cyfartal, arddodiad

      Mae'r ffurf cyn yn digwydd fel gwahanol eiriau sydd â gwahanol swyddi.

      • Cydraddol
      • Arddodiad

      Cydraddol

      Rhydd y canlynol enghreifftiau o cyn fel geiryn mewn patrwm cyfartal:

      • Nid yw cath cyn gryfed â chi.
      • Mae sudd oren cyn ddruted â chwrw.
      • Cyn gynted â chyrraedd, fe aethant i'r ystafell fwyta.

      Arddodiad

      Ceir enghreifftiau o cyn arddodiad fel a ganlyn:

      • Maent yn gobeithio cyrraedd cyn wyth o'r gloch.
      • Cyn mynd, fe ofynnodd Sioned am gyfarwyddiadau.
      • Fe soniodd y gloch cyn yr amser iawn.

      Nid yw cyn arddodiad yn achosi treiglad.

      Tudalen Flaen Treigladau yn y Gymraeg