Treigladau
yn y Gymraeg
Bob Morris Jones
bmj@aber.ac.uk
Â: cyfartal, arddodiad
Mae'r ffurf â yn digwydd fel gwahanol
eiriau sydd â gwahanol swyddi:
Rhydd y
canlynol enghreifftiau o â cyfartal:
- Nid yw cath cyn gryfed â
chi.
- Mae te cystal â chwrw.
- Cyn gynted â chyrraedd, fe aethant i'r
ystafell fwyta.
Rhydd y
canlynol enghreifftiau o â arddodiad:
- Mae Mair yn mynd â thê
i'r parti.
- Mae Siôn yn glanhau'r car â phowdwr golchi.
- Mi roddodd y ddynes y menyn ar y bara â
chyllell.
Tudalen Flaen Treigladau
yn y Gymraeg