Newidynnau Ieithyddol mewn Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg

English Version

Bob Morris Jones

bmj@aber.ac.uk

Sylwadau Rhagarweiniol

Safle gweithiol yw'r tudalennau hyn, sy'n helpu creu rhestr o newidynnau cystrawennol tafodieithoedd y Gymraeg.

Enghreifftiau yn unig a roddir yma. Ni roddir dadansoddiadau.

Ni cheisir enwi lleoliadau ar hyn o bryd.

Ni fwriedir ar gyfer gwaith yn y maes. Mae yna faterion ynglyn ag ynganiadau, treigladau, a dewisiadau geirfaol a allai dynnu sylw oddi ar y newidyn sy'n cael ei astudio. Ni ystyrir y materion hyn yma.

Hefyd mae'r berthynas rhwng Cymraeg ysgrifenedig ffurfiol a Chymraeg lafar anffurfiol yn dod i mewn i'r rhestr. Fe all hyn ddynodi gwahaniaethau arddull yn hytrach na rhai tafodieithol e.e. rhagenwau blaen.

Mewn rhai achosion, nid cystrawennol go iawn yw'r amrywiaeth ond fe seilir yr amrywiaeth ar ddewisoedd geirfaol sydd yn gwireddu elfennau cystrawennol.

Nid ystyriwyd gwahaniaethau morffolegol yn eang, e.e. -odd neu -ws: wedodd e neu wedws e. Neu -s- yn nherfyniadau'r gorffennol perffaith: wel(s)och chi Mair? Neu drydydd person unigol y dyfodol -ith/-iff as in welith/iff hi Gwyn heno.

Mae prosiect diddorol iawn ar gystrawen y tafodieithoedd a'i reolir ar y cyd gan David Willis (Caergrawnt), Maggie Tallerman (Newcastle) and Bob Borsley (Essex), Atlas Cystrawen Tafodieithoedd y Gymraeg.

Rhydd A Linguistic Geography of Wales gan Alan R. Thomas ddisgrifiad o amrywiaeth eirfaol yn y tafodieithoedd. Ceir disgrifiad o amrywiaeth ffonolegol, yn bennaf, a morffoleg a morffoffonoleg yn The Welsh Dialect Survey, golygwyd gan Alan R. Thomas ac ar y cyd gan Glyn E. Jones, Robert O. Jones, and David A. Thorne.

Os gwyddoch am newidyn ieithyddol nad yw yn y rhestr yma neu os oed gynych sylwadau, byddwch gystal â phwyso bmj@aber.ac.uk er mwyn anfon y manylion trwy e-bost.

Newidynnau ieithyddol

Rhagenwau cyfrachol

Y gorffennol perffaith a chymalau enwol

Rhagenwau blaen

Piau neu Perchen

Bron neu bron â bod

Goddrych llanw yna

Byddai neu buasai

Cymlau meddiannol

Dangosolion ôl 

Ynysu arddodiaid

Geirynnau ffocws, prif, negyddol

Geirynnau berfol, cadarnhaol, prif

Geirynnau ffocws, prif, cadarnhaol, gofynnol

Geirynnau berfol, cadarnhaol, is-raddol

Geirynnau berfol, is-raddol, negyddol

Gollwng rhagenwau

Geirynnau ffocws, is-raddol, cadarnhaol

Rhagenwau atblygol

Gorfod

Rhagenwau cyfeirio yn ôl

Sefyllfaoedd arferol

Tagiau

I gyd

Berfau: patrymau syml a chyfansawdd

Patrymau negyddol, prif gymalau

Anghenion

Patrymau negyddol, is-raddol

Trawsnewid y goddrych a'r traethiad

Y radd gyd-raddol

Gollwng y cyplad

 

Berfau: patrymau syml a chyfansawdd

gerdda' i i'r dre       

na' i gerdded i'r dre

 

gerddodd Gwyn i'r dre   

na'th Gwyn gerdded i'r dre   

ddaru Gwyn gerdded i'r dre

 

faswn/fyddwn i'n mynd fory   

awn i fory   

elwn i fory

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Sefyllfaoedd arferol

dw i'n cerdded i'r gwaith bob dydd   

fydda' i'n cerdded i'r gwaith bob dydd

 

o'n i'n cerdded i'r gwaith bod dydd   

fyddwn i'n cerdded i'r gwaith bob dydd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Byddai neu buasai

'would be' in counterfactuals and future-in-the-past

fyddwn i'n aros yma       

 faswn i'n aros yma

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Geirynnau berfol, prif, cadarnhaol

mi fydd Gwyn yna   

fe fydd Gwyn yna   

i fydd Gwyn yna   

fydd Gwyn yna

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Tagiau

fydd Gwyn yna, yn bydd?   

fydd Gwyn yna, bydd e/o?

fydd Gwyn ddim yna, na fydd   

fydd Gwyn ddim yna, bydd e

 

Mair sy'n mynd, (yn)te?

Mair sy'n mynd, ie?

Mair sy'n mynd, (yn)tefe?

Mair sy'n mynd, ife?

 

dim Mair sy'n mynd, nage?

dim Mair sy'n mynd, nag ife?

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Geirynnau ffocws, prif, cadarnhaol, gofynnol

Gwyn sy'n mynd?   

ie Gwyn sy'n mynd?   

efe Gwyn sy'n mynd?

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Geirynnau ffocws, prif, negyddol

dim Gwyn sy'n mynd   

nage Gwyn sy'n mynd   

nid Gwyn sy'n mynd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Geirynnau ffocws, is-raddol, cadarnhaol

ma' Gwyn yn gw'bod ma' Mair sy'n mynd   

ma' Gwyn yn gw'bod na Mair sy'n mynd   

ma' Gwyn yn gw'bod taw Mair sy'n mynd   

ma' Gwyn yn gw'bod Mair sy'n mynd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Geirynnau ffocws, is-raddol, negyddol

ma' Gwyn yn gw'bod dim Mair sy'n mynd   

ma' Gwyn yn gw'bod nage Mair sy'n mynd   

ma' Gwyn yn gw'bod ma' dim Mair sy'n mynd

ma' Gwyn yn gw'bod nad Mair sy'n mynd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Dangosolion ôl 

y llyfr yma   

y llyfr hwn   

y llyfr hyn

 

y llyfr yna   

y llyfr hwnnw/hwnna   

y llyfr hynny

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Anghenion

isho    ishe    ise

 

ma' Mair isho/ishe/ise aros   

ma' Mair yn moyn aros

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Patrymau negyddol, prif gymalau

(dy)dy Mair ddim yna   

(d)yw Mair ddim yna   

sa Mair yna    (ac ynganiadau eraill)

nag yw Mair yna

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Patrymau negyddol, is-raddol

ma' Gwyn yn gw'bod na fydd Mair yna   

ma' Gwyn yn gw'bod na fydd Mair ddim yna   

ma' Gwyn yn gw'bod fydd Mair ddim yna

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Geirynnau berfol, cadarnhaol, is-raddol

ma' Gwyn yn gw'bod bydd Mair yna   

ma' Gwyn yn gw'bod fydd Mair yna   

ma' Gwyn yn gw'bod y bydd Mair yna

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Cymalau meddiannol

mae gan Gwyn gar newydd   

ma' car newydd gan Gwyn   

mae (gy)da Gwyn gar newydd   

ma' car newydd gyda Gwyn

mae Gwyn gan gar newydd   

mae Gwyn gyda car newydd

mae Gwyn efo car newydd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Rhagenwau blaen

(d)w i wedi gweld 'i llyfr hi   

(d)w i wedi gweld llyfr hi

 

(d)w i 'n 'i ddarllen o/e   

(d)w i 'n ddarllen o/e   

(d)w i 'n darllen o/e

 

Be ti 'n 'i f'yta?   

be ti 'n fy'ta?   

be ti'n b'yta?

 

Be ti 'n 'i symud   

be ti 'n symud

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Y gorffennol perffaith a chymalau enwol

ddydodd Gwyn fod Gwyn wedi mynd   

ddydodd Mair a'th Gwyn   

ddydodd Gwyn i Mair fynd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Rhagenwau cyfarchol

Wrth siarad gyda rhywun yr ydych yn ei adnabod yn dda:

o'ddet ti yna?   

o'dde' chdi yna?   

oeddech chi yna?   

oedd o/e yna?

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Goddrych llanw yna

ma' 'na adar yn y coed   

 mae adar  yn y coed

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Bron neu bron â bod

mae hi wedi cyrraedd bron   

mae hi wedi cyrraed bron â bod

 

mae hi bron yna

mae hi bron â bod yna

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Rhagenwau atblygol

yn hun        yn hunan

dy hun        dy hunan

'i hun          'i hunan

ych hun      ych hunan / hunain

yn hun        yn hunain

'i hun          'i hunain

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Gorfod

'got to, have to'

(d)w i'n gor(f)od aros

gor(f)od i mi aros

gor(f)od fi aros

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Gollwng rhagenwau

Ar y cyfan, nid yw'r iaith lafar anffurfiol yn gollwng rhagenwau, a ddigwydd yn aml yn yr iaith ysgrifenedig ffurfiol. Ond mae yna enghreifftiau. Nid yw'n hawdd rhoi cyfrif amadanynt, ond goddrychau rhagenwol i ferfau a rhagenwau a ddilyn arddodadau yn esiamplau posibl. pronominal complements to prepositions.

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Rhagenwau cyfeirio yn ôl

Gweler hefyd Ynysu arddodiaid.

 

dyma'r merched ma' pawb yn son amdanyn

dyma'r merched ma' pawb yn son amdanyn n(h)w

 

ti'n gw'bod y ffilm o't ti'n edrych arno?

ti'n gw'bod y ffilm o't ti'n edrych arno fo/fe?

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Ynysu arddodiaid

Gweler hefyd rhagenwau cyfeirio yn ôl

 

dyma'r merched ma' pawb yn son amdanyn (nhw)

dyma'r merched ma' pawb yn son am

 

i le ti'n mynd?

lle ti'n mynd?

lle ti'n mynd i?

 

am be ti'n chwilio?

be ti'n chwilio amdano (fo)?

be ti'n chwilio am?

 

efo pwy ti'n siarad?

pwy ti'n siarad efo (fo/fe)?

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Piau neu Perchen

fi (sydd) pia/bia hwnna

fi sydd berchen hwnna

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

I gyd 'all'

mae'r dynion i gyd wedi mynd

mae (i) gyd o'r dynion wedi mynd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Goddrych llanw yna

mae sêr disglair yn yr awyr heno

mae yna sêr disglair yn yr awyr heno

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Trawsnewid y goddrch a'r traethiad

mae gen i Audi newydd

mae Audi newydd 'da fi

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Y radd gyd-raddol

mae Mair cyn gryfed â Siôn

mae Mair mor gryfed â Siôn

mae Mair mor gryf â Siôn

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Gollwng y cyplad

dw i'n aros / fi'n aros
w i'n aros yma / fi'n aros yma

wyt ti'n cytuno? / ti'n cytuno?

mae o'n iawn / fo'n iawn
ma' fe'n iawn / fe'n iawn
ma' hi'n iawn / hi'n iawn

dan ni'n mynd / ni'n mynd
yn ni'n mynd /ni'n mynd

dach chi'n dod heno?/ chi'n dod heno?
ych chi'n dod heno? / chi'n dod heno?

ma'n nhw wedi cyrraedd / nhw wedi cyrraedd

yn ôl i restr y newidynnau    yn ôl i'r dechrau

Bob Morris Jones
bmj@aber.ac.uk

05 January 2007 13:50:11