Cenedl ramadegol yn y Gymraeg

Bob Morris Jones
E-bost: bmj@aber.ac.uk

Benywaidd neu wrywaidd, a gwahanol ystyron

Mae rhai enwau yn fenywaidd neu'n wrywaidd yn ôl gwahanol ystyron. Defnyddir y label benywaidd neu wrywaidd i gyfeirio atynt.

enwau benywaidd gwrywaidd
bach 'congl, tro sydyn' 'colyn, bachyn'
bas 'llewyg' 'llais canu isaf; sylfaen; sylwedd cemegol'
brawd 'barn' 'mab i'r un tad neu fam'
carn 'pentwr' 'darn caled troed anifail; dwrn cyllell neu gleddyf; llu'
cethlydd 'y gog' 'canwr, telorodd'
cledd 'chwith' 'cleddyf'
cog 'cwcw' 'cogydd'
copa 'copa, pen, brig'
corf 'corn cyfrwy' 'colofn, cynheiliad'
coron 'penwisg' 'darn o hen arian'
cwtws 'cynffon' 'coelbren, rhan'
cyhydedd 'hyd linell mewn barddoniaeth' 'y llinell fesur o gwmpas canol y ddaear'
de 'ochr sy'n groes i chwith' 'cyfeiriad sy'n groes i'r gogledd'
deau 'croes i chwith' 'croes i ogledd'
ewyllys 'dogfen gyfreithiol, testament' 'dymuniad'
golwg '
gwaith 'tro, adeg' 'llafur, tasg, gweithfa'
gwarant 'hawl, dogfen gyfreithiol' 'rhywbeth sicr'
gwayw 'gwaywffon' 'poen, dolur'
g?ydd 'aderyn mawr' 'presenoldeb'
hem 'ymyl' 'rhybed'
iau 'darn o bren dros warrau dau anifail' 'dydd yr wythnos'
llif 'offeryn llifio' 'rhediad dwr, dilyw'
llith 'darlleniad, ysgrif' 'bwyd i anifeiliaid; abwyd'
llwyn 'rhan o'r corff (rhwng yr asennau a bôn y goes)' 'perth'
man '
mil 'rhif - 1000' 'anifail'
pâl 'rhaw' 'aderyn glan y môr'
pennor 'clwyd' 'penffrwyn'
porth 'porthladd, harbwr' 'drws; cynhaliaeth, cefnogaeth'
sadwrn 'planed' 'dydd yr wythnos'
sarn 'heol' 'gwair a ddodir i anifail orwedd arno'
swrn 'ffêr, migwrn; blew y tu ôl i garn ceffyl' 'nifer go dda'
ton 'symudiad yn y dŵr' 'tir porfa sydd heb ei droi yn ddiweddar'
tor 'bol, bola' 'toriad, rhwyg'
tuedd 'gogwydd' 'ardal'